Ewch i’r prif gynnwys

Creu Tiriogaethau yn Nhreherbert

Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2021
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Webinar

Marga Munar Bauzá, Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae bywyd bob dydd yn datgelu bod y syniad o diriogaeth wedi'i blethu â gofod a lle. Mae'n gynhenid i'r weithred o breswylio a meddiannu a'r broses o gystadlu a thrafod. Felly, mae tiriogaeth yn wleidyddol, yn ofodol ac yn amserol, wedi'i sefydlu gan y cysylltiadau sy'n newid yn barhaus rhwng pobl a'r amgylchedd a'r perthnasoedd rhwng y gymuned a'i chynefin a'r ecosystem ehangach.

Archwiliwyd y syniad hwn mewn prosiect dylunio gan fyfyrwyr yn Nhreherbert. Mae'r prosiect yn cynnwys dau gam cydgysylltiedig sy'n symud o archwilio’r syniad o diriogaeth trwy groesffordd dwy bersonoliaeth wahanol yn Nhreherbert, i gynnig aml-raddfa sy'n gallu ail-diriogaetholi Treherbert a'i brofi ar safle penodol o'r cynnig gyda “phensaernïaeth o diriogaethau”.  Mae hwn yn brosiect byw parhaus gyda'r bartneriaeth gymunedol leol “Croeso i'n Coed” sy'n cymryd perchnogaeth ac yn dod yn stiward dros gyfran sylweddol o'r coetiroedd cyfagos trwy Drosglwyddiad Asedau Cymunedol.

Rhannwch y digwyddiad hwn