Ewch i’r prif gynnwys

Plastigau bioddiraddadwy: sut ydyn ni'n ymgysylltu â defnyddwyr a chymdeithas?

Dydd Gwener, 21 Mai 2021
Calendar 14:00-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Biodegradable plastics webinar details

Mae ymwybyddiaeth a phryder y cyhoedd ynghylch llygredd plastigau yn uwch nag erioed.  Ar yr un pryd, mae'r cyhoedd yn aml yn ansicr ac yn ddryslyd ynghylch beth i'w wneud ag eitemau plastig ar ôl eu defnyddio. 

Bydd y gweminar hwn yn hwyluso trafodaeth rhwng panel arbenigol a chynulleidfa ryngwladol fyw, gan fynd i'r afael ag ystod o gwestiynau gan gynnwys:

  • Sut mae defnyddwyr a sectorau eraill o'r gymdeithas yn gweld, yn deall ac yn defnyddio plastigau bioddiraddadwy?
  • Sut gall cyfathrebu, addysg a labelu helpu i gefnogi defnyddio, rheoli a gwaredu plastig bioddiraddadwy yn briodol?
  • Pa fentrau sy'n seiliedig ar y farchnad a dewisiadau polisi all ein helpu i gyflawni'r newid angenrheidiol o ran ymwybyddiaeth ac ymddygiad i atal plastigau bioddiraddadwy sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gwastraff wedi'i reoli, fel compostio, rhag aros yn yr amgylchedd?

Panelwyr

  • Yr Athro Wouter Poortinga, Athro Seicoleg Amgylcheddol, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Pete Lunn, Pennaeth yr Uned Ymchwil Ymddygiadol, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd
  • Yr Athro Tatiana Filatova, TU Delft
  • Yr Athro Klaus Menrad, Athro Marchnata a Rheoli Adnoddau Biogenig, Prifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol Weihenstephan-Triesdorf
  • Yr Athro Sabine Pahl, Athro Seicoleg Drefol ac Amgylcheddol, Prifysgol Fienna
  • Dr Liam Carr, Darlithydd a Chydlynydd Rhaglen, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon (NUI) Galway
  • Silvia Forni, Swyddog Polisi, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Amgylchedd ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd
  • Samantha Fahy, Rheolwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Dinas Dulyn

Byddwn hefyd yn arddangos gwaith yr artist a'r gwneuthurwr printiau, Heather Nunn. Trwy ei gwaith, mae'n mynegi ei hangerdd dros yr amgylchedd wrth herio'r anghydbwysedd rhwng y gymdeithas fodern a natur.

Bydd Heather yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Richard Thompson, Cyfarwyddwr y Sefydliad Morol, Prifysgol Plymouth.

Mae'r gweminar hwn yn rhan o gyfres a drefnwyd gan SAPEA, mewn partneriaeth ag Academi Frenhinol Iwerddon. Mae’n tynnu ar yr Adroddiad Adolygu Tystiolaeth 'Plastigau bioddiraddadwy yn yr amgylchedd agored' (Biodegradable plastics in the open environment) a'r Farn Wyddonol gysylltiedig gan Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol y Comisiwn Ewropeaidd. 

Rhannwch y digwyddiad hwn