Ewch i’r prif gynnwys

Creu a llunio isadeileddau ‘sero net’ yn y ‘ddinas’ a thu hwnt

Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2021
Calendar 11:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

COP26 Conference Logo

Mae COP 26 yn agosáu ac mae angen dybryd i gyflymu trosglwyddiadau sero net. Derbynnir y bydd mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyflawni sero net yn golygu ad-drefnu rhwydweithiau trafnidiaeth, trydan, nwy, dŵr a gwastraff yn radical. Mae hwn yn brawf o bwys i'r gymdeithas yn gyffredinol ac yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â rheoli a datblygu isadeileddau gwasanaeth allweddol. Mae'r prawf hwn yn cynnwys heriau rhwydwaith-benodol a thraws-rwydwaith, sydd wedi'u ffurfweddu ar yr un pryd mewn dinasoedd a thu hwnt ac mewn gwahanol lefydd ac ar amserlenni gwahanol.

Gan gydnabod arwyddocâd yr heriau hyn, mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar y cwestiynau allweddol canlynol ac yn mynd i'r afael â nhw:

  • Pa broblemau y mae gwahanol isadeileddau yn eu hwynebu mewn perthynas â chwrdd â sero net?
  • Sut mae heriau a newidiadau rhwydwaith penodol yn datblygu mewn dinasoedd a thu hwnt?
  • Beth yw'r cyfleoedd ar gyfer (a rhwystrau i) gydweithrediadau traws-rwydwaith sy'n cefnogi sero net?

Ymdrinnir â'r cwestiynau hyn trwy ddigwyddiad ar-lein hanner diwrnod, sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr polisïau hinsawdd, arweinwyr integreiddio systemau, a gweithwyr proffesiynol rhwydwaith sydd â gwybodaeth arbenigol am newid yn yr hinsawdd, rheoli isadeileddau a chyflawni sero net.

Siaradwyr

  • Nick Eyre - Athro Ynni a Pholisïau Hinsawdd yn y Sefydliad Newid Amgylcheddol (ECI) ym Mhrifysgol Rhydychen, a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwilio i Ddatrysiadau Galw am Ynni (CREDS)
  • Emma Harrison - Pennaeth Integreiddio Systemau, yn Energy Systems Catapult
  • Mark Barry - Athro Ymarfer mewn Cysylltedd (PT) Prifysgol Caerdydd, Cynghorydd Strategol (PT) Trafnidiaeth Cymru, M&G Barry Consulting
  • Ben Burggraaf - Dŵr Cymru ac Is-gadeirydd Energy Managers Association
  • Oliver Lancaster, Rheolwr Cysylltiadau Sero Net, Wales & West Utilities
  • Joshua Visser, Rheolwr Arloesedd, National Grid ESO

Rhaglen y Digwyddiad

Sesiwn 1 (11.00 – 12.15): ‘Graddfa’ yr heriau sero net

11.00    Cyflwyno’r Digwyddiad

Rebecca Windemer, Carla de Laurentis, Torik Holmes

11.10    Yr her sero net

Nick Eyre, Athro mewn Yanni a Pholisi Hinsawdd, Cyfarwyddwr CREDS, Prifysgol Rhydychen

11.30    Heriau a chyfleoedd seilwaith ar gyfer integreiddio traws-rwydwaith

Emma Harrison, Energy Systems Catapult

11.50    Sesiwn Holi ac Ateb

Gyda’r ddau siaradwr

12.15    Cinio

Sesiwn 2 (13.00 – 15.00): Rhwydweithiau a chwrdd â sero net

13.00    Trafnidiaeth, Gwastraff, Dŵr, Nwy, Trydan

Mark Barry, Athro Ymarfer, Prifysgol Caerdydd a M&G Barry Consulting; I’w gadarnhau; Ben Burggraaf, Dŵr Cymru; Oliver Lancaster, Rheolwr Cysylltiadau Sero Net, Wales & West Utilities; Joshua Visser, Rheolwr Arloesedd, National Grid ESO

14.15    Egwyl goffi ‘digidol’ a gofyn cwestiynau

I’w gadarnhau

14.30    Sesiwn Holi ac Ateb

Gyda’r pum siaradwr

14.55    Crynhoi’r digwyddiad

Rebecca Windemer, Carla de Laurentis, Torik Holmes

Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.

Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn

Rhannwch y digwyddiad hwn