Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Jonathan Hall

Dydd Mercher, 19 Mai 2021
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Jonathan Hall, External Member of the Bank of England’s Financial Policy Committee

Adeiladu Gwydnwch y Farchnad Ariannol

Mae Pwyllgor Polisi Ariannol Y Banc (“FPC”) yn bodoli i sicrhau y gall system ariannol y DU wasanaethu cartrefi a busnesau’r DU yn ystod yr amseroedd da yn ogystal â’r gwael, gan leihau’r tebygolrwydd y bydd sioc allanol yn cael ei chwyddo.

Dyna yn union y fath o sioc y cafodd Caovd-19 ar yr economi. Ac er bod system ariannol y DU wedi gallu darparu’r gefnogaeth angenrheidiol hyd yma, mae rhai gwendidau wedi cael eu hamlygu. Yn wir, arweiniodd gweithredoedd gan gyfranogwyr y farchnad, a allai fod wedi bod yn rhesymol wrth gael eu hystyried ar wahân, at faterion systemig wrth gael eu hystyried yn gyfraneddol. Oni bai am gamau rhyfeddol y Banc Canolog, byddai’r gwendidau hynny yn y farchnad ariannol wedi chwyddo’r sioc allanol, ac wedi gwaethygu’r amodau ar gyfer cartrefi a busnesau.

Gyda chefnogaeth dadansoddiad o ddeinamig y farchnad, bydd yr araith yn dadlau bod nifer o nodau bregusrwydd y farchnad ariannol yn gyfrifol, ar y cyd, am gamweithrediad y farchnad a thynhau amodau yn Mis Mawrth 2020. A heb weithred polisi, gellid gweld dynameg tebyg yn y dyfodol, gyda breuder parhaus y farchnad bondiau a pheryglon trosoledd yn dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf.

Bydd Jon yn awgrymu camau polisi posib i fynd i’r afael â’r gwendidau amlygwyd, a thrafod y gwaith parhaus, o fewn y banc ac yn y fyd-eang, i asesu a sicrhau gwytnwch marchnadoedd craidd.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education