Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol cynllunio amgylcheddol

Dydd Mercher, 28 Ebrill 2021
Calendar 09:00-11:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Os yw'r DU yn mynd i daclo'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, yna mae'n rhaid i'r system gynllunio ddechrau chwarae rhan llawer mwy sylweddol ar unwaith. Elfen hanfodol o'r newid sydd ei angen yw datblygu mecanweithiau ar gyfer blaenoriaethu'r broses o gyflawni deilliannau amgylcheddol, fel amcanion cynllunio craidd, sy'n gosod y ffiniau ar gyfer datblygiadau. Mae'r seminar ar y cyd hwn a drefnwyd gan CPRE, yr elusen cefn gwlad, a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnig gofod i drafod ffyrdd y gallwn roi targedau amgylcheddol wrth wraidd cynllunio, a'r elfennau sydd eu hangen iddynt fod yn effeithiol. Bydd yn trafod targedau amgylcheddol ym maes cynllunio, polisïau cynllunio cenedlaethol, y fframwaith newydd ôl-Brexit ar gyfer cyfraith a llywodraethu amgylcheddol, a diwygiadau arfaethedig o ran asesu'r effaith ar yr amgylchedd.

Amserlen:

Nicholas Grant, Siambrau Landmark: 'Goblygiadau Egwyddorion Amgylcheddol y Llywodraeth i'r system gynllunio a pholisïau cynllunio cenedlaethol'

Yr Athro Richard Cowell, Prifysgol Caerdydd: 'Cynllunio a bwrw targedau amgylcheddol'

Yr Athro Thomas Fischer, Prifysgol Lerpwl: 'Oes modd diwygio SEA ac EIA? Os felly, sut?'

Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.

Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn

Rhannwch y digwyddiad hwn