Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Japaneeg Ar-lein Caerdydd: 'We Japanese are more polite than others': intercultural communication and stereotypes

Dydd Mercher, 28 Ebrill 2021
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Y trydydd digwyddiad yng Nghyfres Darlithoedd Japaneeg Caerdydd, y tro hwn gyda'r Athro Michael Handford (Prifysgol Caerdydd). Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau yn trin a thrafod agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith Japaneeg ac fe'i cefnogir gan Sefydliad Japan, Llundain.

Crynodeb
Ydy stereoteipiau'n helpu neu'n rhwystro cyfathrebu rhyngddiwylliannol? Mae hwn yn gwestiwn pwysig i ddysgwyr a gweithwyr iaith proffesiynol fel ei gilydd.  Yn hytrach na bod yn ganllaw diwylliannol defnyddiol, byddaf yn dadlau bod stereoteipiau (boed am ein grwpiau mewnol neu grwpiau allanol - Bar-Tal 1997) yn gallu bod yn broblematig iawn. Trwy ddiffiniad, maent yn cynnwys gwerthusiad, sy'n ein hannog i weld pobl yn gynhenid wahanol. Gallant ein harwain i aralloli'r grŵp allanol, a rhoi hwb i'r grŵp mewnol.  Ar ôl adolygu’n feirniadol rywfaint o’r llenyddiaeth helaeth ar stereoteipio a chyfathrebu rhyngddiwylliannol, af ymlaen i drafod astudiaeth achos (Handford, 2020). Rhwng 2007 a 2015, bûm i'n gweithio fel ymgynghorydd cyfathrebu mewn nifer o gwmnïau rhyngwladol o Japan, ochr yn ochr â'r Athro Hiro Tanaka. Ein tasg oedd hyfforddi'r gweithwyr i fod yn gyfathrebwyr rhyngwladol a rhyngddiwylliannol effeithiol. Peirianwyr Japaneaidd oedd yr hyfforddeion yn bennaf, ond yn gynyddol roeddent yn cynnwys pobl o genhedloedd gwahanol. Yn ystod y dadansoddiad o anghenion a thrwy gydol yr hyfforddiant, daethom o hyd i amrywiol stereoteipiau cenedlaethol ac anogwyd yr hyfforddeion i'w hystyried yn feirniadol yn nhermau eu nodau rhyngddiwylliannol. Yna byddaf yn ystyried rhai rhesymau am fynychder rhai stereoteipiau (Handford, yn y wasg) gan dynnu ar ymchwil ar Nihonjinron, y naratif hunaniaeth amlycaf yng nghymdeithas Japan (Befu, 2002; Sugimoto, 2015), cyn myfyrio ar y goblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu rhyngddiwylliannol.

Bywgraffiad
Mae Michael Handford yn ddeiliad Cadair Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n Gyfarwyddwr Rhyngwladoli yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu. O 2005-2016 bu’n gweithio ym Mhrifysgol Tokyo fel Athro Addysg Ryngwladol. Mae wedi cyhoeddi ar ddisgwrs mewn lleoliadau proffesiynol, hunaniaethau diwylliannol yn y gweithle, stereoteipio yn y gweithle, gwrthdaro mewn rhyngweithiadau yn y gweithle, hanfodoldeb a chyfathrebu rhyngddiwylliannol, cymhwyso offer corpws mewn dadansoddi disgwrs a chyfathrebu rhyngddiwylliannol, Saesneg fel Lingua Franca a dysgu iaith.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn