Ewch i’r prif gynnwys

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!) - A yw COVID-19 wedi ein gwneud yn fwy cynaliadwy?

Dydd Iau, 22 Ebrill 2021
Calendar 17:30-18:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Test that reads Has COVID-19 made us more or less sustainable? Alongside a picture of event speaker Jack Hodgkiss

Ymunwch â’r sgwrs hon a arweinir gan gynfyfyrwyr wrth i ni ddathlu Diwrnod y Ddaear a thrafod y cwestiwn: A yw COVID-19 wedi ein gwneud yn fwy cynaliadwy? Y sgwrs hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres FABA (Fyw!) o ddigwyddiadau, lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd.

Byddwn yn sgwrsio â Jack Hodgkiss (BSc 2016), Partner Creadigol i elusen amgylcheddol Hubbub sy'n cynnal ymgyrchoedd dros newid ymddygiadau ac agweddau mewn modd cadarnhaol, er mwyn annog pobl i fyw’n fwy cynaliadwy.

Cyflwynwch gwestiwn ymlaen llaw ar gyfer ein panelwyr wrth gofrestru ar gyfer y gweminar.

Rhannwch y digwyddiad hwn