Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad Llyfr: Silent Village: Life and Death in Occupied France gan Robert Pike am fywydau coll Oradour-sur-Glane

Dydd Iau, 6 Mai 2021
Calendar 17:00-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white image of ten people (men, women and children) standing in a row, in the middle of a village, and facing the camera straight ahead.

Bydd lansiad cyfrol Silent Village gan Robert Pike (Prifysgol Caerdydd) yn cynnwys sgwrs bwrdd crwn rhwng yr awdur a Chris Millington (Prifysgol Fetropolitan Manceinion), Megan Ison (Prifysgol Portsmouth) a Daniel Baker (Prifysgol Caerdydd). Trefnir y digwyddiad gan thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern a chaiff ei arwain gan yr Athro Hanna Diamond (Prifysgol Caerdydd).

Mae Silent Village yn  ymchwiliad manwl i hanes y bobl oedd yn byw yn Oradour-sur-Glane. Ar 10 Mehefin 1944, yn y pentref hardd hwn yng nghanol Ffrainc Vichy, llofruddiwyd 643 o ddynion, menywod a phlant yn anfadwaith gwaethaf y genedl yn ystod y rhyfel. Gan ddefnyddio cyfweliadau gyda'r goroeswyr olaf a deunydd archifol pwerus, ceir cipolwg unigryw  yn y gyfrol ar draddodiadau, cariad ac anghydfod mewn pentref nodweddiadol yn Ffrainc dan oresgyniad cyn y trasiedi ac yn ei sgil.

Mae Robert Pike yn awdur a hanesydd Ffrainc fodern. Cyhoeddwyd ei waith cyntaf, Defying Vichy: Blood, Fear and French Resistance, gan History Press yn 2018. Graddiodd o Brifysgol Caerwysg ac ar ôl gyrfa'n addysgu, mae ar hyn o bryd yn gweithio at MSc ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio hanes diogelu Iddewon yn y Limousin. Ym mis Medi 2021 bydd yn dechrau ar ymchwil ddoethurol yn edrych ar gyfansoddiad cymdeithasol y Gwrthsafiad gwledig yn ne Ffrainc.

Mae Dr Chris Millington yn Ddarllenydd mewn Hanes Ewrop Fodern ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, lle mae'n addysgu ac yn ymchwilio hanes Ffrainc ac Ewrop fodern. Ei fonograffau diweddaraf yw France in the Second World War: Collaboration, Resistance, Holocaust, Empire (2020) ac A History of Fascism in France: From the First World War to the National Front (2019), y cyhoeddwyd ill dau gan Bloomsbury Academic.

Mae Megan Ison yn fyfyriwr PhD a gyllidir gan ESRC gyda Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Arfordir y De yn Adran Astudiaethau Ardal Prifysgol Portsmouth. Mae hi'n ymchwilio i hanes a chof Cyflafan Oradour a Chonsgripsiwn Gorfodol yn Ffrainc Gyfoes, gyda diddordeb arbennig yn ardal Alsace. Mae ganddi radd BA Anrh mewn Astudiaethau Ffrengig o Brifysgol Portsmouth ac MSc o Brifysgol Southampton mewn Dulliau Ymchwil Gymdeithasol.

Mae Daniel Baker yn ymchwilydd ôl-raddedig yn yr Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n ymchwilio i Drais, Emosiynau a Chyfundrefn Vichy yng nghyd-destun ei draethawd ymchwil ar y Milice française yn ystod Goresgyniad yr Almaen yn Ffrainc. Ymgymerodd ag astudiaethau israddedig yn Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis ac mae ganddo radd Meistr mewn Hanes Modern o King's College Llundain.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 22 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn