Ewch i’r prif gynnwys

Madan Sara: The Power of Haitian Women: Dangosiad a Thrafodaeth o'r ffilm gyda'r cyfarwyddwr Etant Dupain

Dydd Mercher, 21 Ebrill 2021
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Madan Sara at work

Mae'r digwyddiad yn cynnwys dangosiad o Madan Sara: Pouvwa Fanm Aysiyen (Madan Sara: The Power of Haitian Women) ar Zoom, a sgwrs gyda'r cyfarwyddwr Etant Dupain i ddilyn. Fe'i cyd-gynhelir gan Dr Charlotte Hammond, Darlithydd mewn Astudiaethau Ffrengig, a'r Athro Gordon Cumming, arweinydd thema ymchwil Astudiaethau ardal byd-eang sy'n seiliedig ar iaith, yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Mae'r menywod a elwir yn Madan Sara ar flaen y gad yn y frwydr dros economi fwy cadarn a chynhwysol yn Haiti. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino i brynu, dosbarthu, a gwerthu bwyd a hanfodion eraill mewn marchnadoedd drwy'r wlad. Er gwaethaf y rhwystrau sy'n wynebu'r menywod sy'n gweithio mewn sector sydd heb fuddsoddiad, seilwaith na chymorth gwladwriaethol, mae'r Madan Sara yn parhau i fod yn un o elfennau mwyaf hanfodol economi Haiti ac o bwy ydym ni fel gwlad.

Yn y rhaglen ddogfen Madan Sara adroddir straeon y menywod dygn hyn sy'n gweithio ar yr ymylon i wneud i economi Haiti weithio. Er eu bod yn wynebu caledi dwys a stigma cymdeithasol, mae gwaith caled y Madan Sara yn talu am ysgol eu plant, cartrefi i'w teuluoedd, ac yn eu helpu i sicrhau bywyd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r ffilm yn amlygu galwadau'r Madan Sara wrth iddyn nhw siarad yn uniongyrchol â chymdeithas i rannu eu breuddwydion am Haiti fwy cyfiawn.

Gwylio'r rhagolwg.

Am y gwneuthurwr ffilm:
Newyddiadurwr, gwneuthurwr ffilmiau a threfnydd cymunedol yw Etant Dupain. Ers degawd a mwy, mae wedi gweithio fel cynhyrchydd ar raglenni dogfen ac i gwmnïau newyddion rhyngwladol yn cynnwys Al Jazeera, TeleSur, BBC, CNN, Netflix, PBS, a Vice. Sefydlodd Etant brosiect cyfryngau amgen yn Haiti i alluogi dinesydd-newyddiadurwyr i roi mynediad at wybodaeth mewn Creole Haiti ar gyfer ac am bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol, atebolrwydd, a gwleidyddiaeth. Nawr, gyda chryfder ei fam a'r menywod a elwir y Madan Sara sy'n gwneud i economi Haiti weithio yn ei ysbrydoli, mae'n gwneud ei ffilm bersonol gyntaf.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 7 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn