Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg Ymgolli De Cymru cyfarfod ar-lein

Dydd Iau, 25 Mawrth 2021
Calendar 18:00-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Navy and green animated image of 3 people with masks on

Technoleg Ymgolli De Cymru cyfarfod ar-lein

Dydd Iau Mawrth 25

6.00pm

Cofrestrwch yma i ymuno â'r digwyddiad rhad ac am ddim.

Mae Technoleg Ymgolli De Cymru yn gyfarfod a drefnir gan Caerdydd Creadigol ar gyfer y clwstwr technoleg ymgolli sydd ar dwf yn ne Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth a dysgu ar dechnoleg ddatblygol (realiti rhithwir / realiti estynedig / realiti cymysg) rhwng ymarferwyr technoleg a chreadigol ac amrywiaeth eang o academyddion sy'n defnyddio'r dechnoleg. Ein gobaith yw annog rhwydweithio a chyfleoedd i gydweithio.

Ymunwch â ni yn y cyfarfod ar-lein nesaf lle gallwch ddisgwyl sgwrs arddangos gan:

Virtus Tech

Mae Virus Tech yn torri tir newydd drwy newid y ffordd y gall cwsmeriaid siopa, dysgu a chasglu gwybodaeth gyda VR. Mae'r genhadaeth yn syml... rhoi'r gallu i unrhyw berson neu fusnes greu ac adleoli eu platfformau rhith-deithiau personol eu hunain yn eu ffordd eu hunain, sut a ble maen nhw eisiau. Mae eu gwasanaethau DIGI Tour a DIGI Data wedi helpu sawl busnes i ychwanegu gwerth i'w platfformau ar-lein, o asiantau tai annibynnol i sefydliadau addysgol a manwerthwyr. Bellach, maent yn ymestyn eu technoleg i'r sector gofal iechyd gan eu bod nhw'n gweithio gyda chleientiaid gofal iechyd cenedlaethol i greu platfform hyfforddiant meddygol VR amser go iawn.

Rydym ni'n croesawu'n arbennig y rheini nad ydyn nhw wedi dod i gyfarfod o'r blaen.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion fel Iaith Arwyddion Prydain, adrodd llais i destun, neu gyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg, ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu trefnu cefnogaeth. creativecardiff@cardiff.ac.uk 

Cynhelir y digwyddiad hwn ar declyn cynadledda fideo Zoom. I lawrlwytho Zoom ewch i: https://zoom.us/download. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddefnyddio’r platfform hwn, rhowch wybod i ni wrth gofrestru.

Rhagor o wybodaeth am ein cyfranwyr

George Bellwood - Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol - Cynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd a astudiodd Rheoli Busnes a Marchnata, cyn graddio yn 2019. Ar ôl gweithio mewn rolau amrywiol ym maes manwerthu, cafodd George syniad wrth helpu busnes i ddod o hyd i ffordd haws o arddangos ei gynnyrch a'i wasanaethau, ynghyd ag arddangos gwybodaeth allweddol gan ddefnyddio VR. Daeth y syniad yn ystod darlith marchnata yn y brifysgol yn 2018, ac bellach mae wedi arwain at greu Virus Tech, y mae wedi bod yn gweithio amser llawn arno. Mae George wedi datblygu ei sgiliau marchnata, dylunio a ffotograffiaeth, gan roi'r hyn a ddysgodd yn y brifysgol ar waith.

Robin David - Robin yw CTO a Chyd-sylfaenydd Virus Tech, ac mae ganddo dros 5 mlynedd o brofiad. Astudiodd Robin Beirianneg Meddalwedd yng Nghaerdydd rhwng 2015 a 2018, ac roedd yn rhan o garfan gynta'r NSA. Ers graddio, mae wedi gweithio gyda sawl cwmni wrth sefydlu Virus Tech, gan adeiladu cynnyrch craidd DIGI Tour a DIGI Data, o'r gwaelod i fyny.  Mae Robin bellach yn gweithio amser llawn yn Virtus Tech ac yn arbenigo mewn datblygu pentyrrau llawn yn ogystal â gweithio ar algorithmau dysgu peiriannol ar hyn o bryd, gan helpu i ehangu ar fewnwelediadau data allweddol fel rhagweld cyfresi.

Arddangosfa

Ar gyfer digwyddiad Technoleg Ymgolli De Cymru, rydym yn ystyried rhoi cyfle i arddangos prosiectau sy’n dangos potensial defnyddio technolegau sydd ar gynnydd yn y diwydiannau creadigol. Gall y prosiectau hyn fod yn brototeipiau, arddangosiadau, rhyddhadau cynnar neu rai llawn, a wnaed gan unigolion neu dimau. Dyma gyfle i chi rannu â’r gymuned ehangach. Dyma alwad agored i brosiectau fod yn rhan o’r arddangosfa yn rhan o ddigwyddiad Technolegau Ymgolli De Cymru ar 25 Mawrth 2021. Rhaid cyflwyno pob cais cyn 18 Mawrth 2020. Ni chaiff unrhyw rai ar ôl y dyddiad hwn eu hychwanegu at yr arddangosfa, ond cân nhw eu cadw ar ffeil ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd yr holl waith ar gael i’r cyhoedd yn rhan o’r arddangosfa.

Llenwch y ffurflen gais os ydych am gyflwyno eich prosiect ar gyfer yr arddangosfa.

Rhannwch y digwyddiad hwn