Ewch i’r prif gynnwys

Mewn trafodaeth â'r Athro Manuel Barcia: Gwaddolion y fasnach gaethweision: Epidemigau, clefydau a gwybodaeth feddygol

Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2021
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Professor Manuel Barcia book cover

Gweminar mewn sgwrs gyda'r Athro Manuel Barcia, Cadeirydd Hanes Byd-eang ym Mhrifysgol Leeds, sy'n cael ei gynnal gan y thema ymchwil Hanes a Threftadaeth o dan thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol Ieithoedd Modern.

I gael rhagor o wybodaeth am themâu ymchwil yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Wrth i'r fasnach gaethweision ddod â phobl o Ewrop, Affrica ac America i gysylltiad â’i gilydd, roedd afiechydon yn cael eu masnachu ynghyd â bywydau pobl. Yn y digwyddiad hwn, bydd Manuel Barcia yn trin a thrafod y frwydr yn erbyn yr afiechydon, lle bu masnachwyr yn ymladd yn erbyn colli elw wrth i gaethweision o Affrica frwydro i oroesi. Er na chawsant fawr o lwyddiant gyda'u hymdrechion i reoli afiechydon ac atal epidemigau rhag lledaenu, cyfrannodd y wybodaeth feddygol a gynhyrchwyd gan bobl ar ddwy ochr y gwrthdaro at newid aruthrol yn niwylliannau meddygol gweledydd yr Iwerydd.

Bywgraffiad
Yr Athro Manuel Barcia yw Cadair Hanes Byd-eang ym Mhrifysgol Leeds. Mae Barcia yn ysgolhaig ym maes Astudiaethau'r Iwerydd a Chaethwasiaeth ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar bynciau fel gwrthwynebiad caethweision, gwrthryfel caethweision, a throsglwyddo gwybodaeth am ryfela o Orllewin Affrica draw i America, gyda phwyslais ar Frasil y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a Cuba. Bydd y gweithgaredd hwn o fudd arbennig i fyfyrwyr a chydweithwyr yn yr Ysgolion Ieithoedd Modern, Hanes a Meddygaeth.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mawrth 6 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn