Ewch i’r prif gynnwys

Gwerth gorffwys yn oes COVID-19

Dydd Iau, 11 Mawrth 2021
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health banner

Mae cwsg yn cael ei gymryd o ddifrif erbyn hyn, ond mae gorffwys yn wahanol. Dyma sut rydyn ni'n ymlacio, yn tawelu ein meddwl ac yn cael ein cefn atom.  Y broblem yw bod llawer ohonom yn teimlo dan bwysau cyson, heb amser i orffwys. Neu os yw’r pandemig wedi gorfodi i ni gael amser sbâr, gall y gorffwys gorfodol hwnnw ein gadael yn teimlo'n aflonydd, yn hytrach na wedi dadflino.

Yn y ddarlith hon bydd Claudia Hammond yn defnyddio’r astudiaeth fwyaf yn y byd am bwnc gorffwys, ‘Y Prawf Gorffwys’ (The Rest Test). Mewn cydweithrediad rhwng seicolegwyr ym Mhrifysgol Durham a'r BBC, daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth fyd-eang hon o orffwys nad ydym yn cael digon o orffwys.  Bydd Claudia yn egluro'r hyn rydyn ni'n ei wybod am wyddoniaeth gorffwys a sut mae'r canfyddiadau'n berthnasol i fyd newydd y pandemig.

Mae pobl yn ymfalchïo mewn pa mor brysur ydyn nhw, ond mae angen i ni ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng gorffwys a gweithgaredd. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau o bedwar ban byd, gallwn wneud ein bywydau’n fwy hamddenol.

Rhannwch y digwyddiad hwn