Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Fwyaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: Ailedrych ar 'Theses on the Paris Commune' y Sefyllfawyr

Dydd Gwener, 19 Mawrth 2021
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Gweminar gyda Dr Alastair Hemmens (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Gabriel Zacarias (Prifysgol Campinas, Brasil) sy'n cael ei redeg gan y thema ymchwil Hanes a Threftadaeth o dan y thema ymchwil Ysgol gyfan Diwylliannau Argyfwng.

Darganfyddwch fwy am themâu ymchwil yr Ysgol Iaith Fodern.

Crynodeb
Mae 2021 yn gan mlwyddiant a hanner Commune Paris 1871. Ar ôl i Ffrainc gael ei threchu'n drychinebus yn y Rhyfel yn erbyn Prwsia, chwerwodd pobl Paris gan godi a chyhoeddi llywodraeth sosialaidd radical yn y ddinas. Am saith deg o ddiwrnodau rhwng mis Mawrth a mis Mai 1971, ceisiodd y Commune chwyldroi cymdeithas Paris, cyn ildio o'r diwedd yn dilyn ymosodiad erchyll o waedlyd gan fyddin Ffrainc.

Cafodd Commune Paris ei nodi fel gwir wrthryfel proletariaidd gan Marx, ac mae wedi chwarae rhan ganolog yn y meddylfryd gwrth-gyfalafol ers tro.  Yn y cyfweliad hwn, bydd Dr Alistair Hemmens a'r Athro Gabriel Zacarias (Prifysgol Campinas, Brasil) yn trafod eu hymchwil parhaus i'r Situationist International, mudiad artistig radical y cyfrannodd ei Theses on the Paris Commune (1962) at feirniadaeth adain chwith Marcsiaeth uniongred ac i ddamcaniaethau'r mudiad ei hun am ofod cymdeithasol, sy'n parhau i lywio trafodaethau ynghylch bywyd bob dydd mewn cymdeithasau cyfalafol hyd heddiw.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfweliad ar-lein ac fe’i cyflwynir gan Samuel Young, Cyd-Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig ar gyfer thema ymchwil Hanes a Threftadaeth.

Bywgraffiadau
Mae Dr Alastair Hemmens yn ddarlithydd mewn Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, yn arbenigo mewn theori gritigol a hanes deallusol a diwylliannol Ewrop. Yn ddiweddar cyhoeddodd Dr Hemmens The Critique of Work in Modern French Thought, from Charles Fourier to Guy Debord (2019) a chyd-olygodd The Situationist International: A Critical Handbook (2020). Mae hefyd wedi cyfieithu gwaith yr athronydd Anselm Jappe, yn cynnwys The writing on the wall: on the decomposition of capitalism and its critics (2017).

Mae Gabriel Zacarias yn athro Hanes ym Mhrifysgol Campinas (Brasil) ac yn Gymrawd Ymchwil Gwadd ym Mhrifysgol Yale. Mae'r Athro Zacarias wedi ymchwilio'r Sefyllfawyr a Guy Debord yn fanwl, gan gyfrannu at y gyfrol olygedig Lire Debord (2015) a chyd-olygu The Situationist International: A Critical Handbook (2020). Hefyd yn ddiweddar cyhoeddodd yr ysgrif ‘No espelho do terror: jihad e espetáculo’ (2018), sy'n edrych ar derfysgaeth fel rhan o argyfwng cyfalafiaeth hwyr.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 5 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn