Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Llamau a Chwarae Teg

Dydd Mercher, 24 Mawrth 2021
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Diwrnod Rhyngwladol y Merched yng nghwmni Llamau, Chwarae Teg ac Ysgol Busnes Caerdydd

Ymunwch gyda ni ar gyfer Sesiwn Hysbysu dros Frecwast lle byddwn yn adolygu lle’r ydym ni o ran cydraddoldeb menywod, ac yn canolbwyntio ar broblem benodol i fenywod, yn enwedig yn ystod y cyfnod cloi pandemig, sef cam-drin domestig. Ein ffocws fydd yr hyn y gall y Gymuned Fusnes ei wneud i helpu i wella diogelwch a ffyniant menywod.

Chwarae Teg

Mae gan brif elusen cydraddoldeb Cymru, Chwarae Teg, yr uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd-eang dros gydraddoldeb rhywiol. Mae’r Adolygiad Cydraddoldeb, a gwblhawyd gan Chwarae Teg yn 2019, yn amlinellu sut y gellir wireddu’r weledigaeth hon trwy newid nid yn unig yr hyn a wnawn, ond hefyd sut yr ydym yn ei wneud. Mae Adroddiad Cyflwr y Gendl yn ceisio amlinellu sut mae Cymru yn perfformio mewn perthynas â dangosyddion allweddol ar gydraddoldeb rhywiol. Bydd y Prif Swyddog Gweithredol, Cerys Furlong, yn tynnu sylw at ganfyddiadau adroddiad Cyflwr y Genedl, 2021, ac yn sgwrsio am creu gweithlu amrywiol.

Llamau

Mae’r elusen ddigartrefedd Llamau yn feiddgar dychmygu byd heb digartrefedd, ac yn benderfynol o gyflawni hyn. Mae Llamau yn gweithio gyda phobl ifanc, a menywod sydd mewn perygl, neu’n profi digartrefedd yng Nghymru; yn canolbwyntio ar atal, darparu llety diogel a chefnogaeth i symud ymlaen.

Trais domestig yw prif achos digartrefedd i fenywod ac mae un o bob tair merch yng Nghymru yn dioddef cam-drin domestig yn ystod eu hoes. Mae hyn yn golygu, mewn gweithle sy’n cyflogi 500 o ferched, mae’n debyg y bydd tua 166 ohonynt yn cael profiad o cam-drin domestig ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mae hwn yn ystadegyn ysgytwol, ac yn un y gall pob cyflogwr chwarae rhan weithredol wrth geisio ei atal.

Fel cyflogwr, gallwch chwarae eich rhan hanfodol trwy greu amgylchedd gwaith lle mae pob gweithiwr yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel i geisio am, neu gynnig, cefnogaeth mewn perthynas â cham-drin domestig.

Ymunwch gyda ni ar gyfer y sesiwn hon lle byddwn yn edrych i amlinellu’r hyn y gallwch ei wneud i helpu.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education