Ewch i’r prif gynnwys

Paradestunau ac (ail)adeiladu’r maes adeiladu: Astudiaeth Achos o'r Beibl mewn Arabeg

Dydd Iau, 11 Mawrth 2021
Calendar 13:30-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Gweminar gyda'r siaradwr gwadd Dr Sameh Hanna (Cymdeithasau Beibl Unedig a Phrifysgol Leeds), fel rhan o'r Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol.

Crynodeb
Paradestunau ac (ail)adeiladu’r maes adeiladu: Bydd y sgwrs hon, sy’n Astudiaeth Achos o'r Beibl mewn Arabeg gan ddefnyddio 'theori maes' Bourdieu a damcaniaethu Gerard Genette ar baradestunoldeb, yn archwilio goblygiadau dadansoddi paradestunol ar gyfer (ail)adeiladu unrhyw faes cyfieithu penodol. Mae hanes cyfieithiadau o’r Beibl i’r Arabeg, maes cymhleth sy'n herio unrhyw (ail)adeiladu pendant, yn dangos y rôl hanfodol y mae paradestunau’n ei chwarae wrth gyfryngu galluogedd y cyfieithydd, amlinellu'r gynulleidfa darged, a nodi’r union ddeinameg rym sydd ynghlwm â chynhyrchu a lledaenu cyfieithiadau o'r Beibl. Caiff swyddogaeth gyfryngu paradestunau cyfieithu rhwng testun a chyd-destun, galluogedd y cyfieithydd a strwythur a dynameg y maes yn cael ei harddangos trwy enghreifftiau o hanes cyfieithiadau’r Beibl i’r Arabeg.

Bywgraffiad
Ar ôl cwblhau ei PhD ar gymdeithaseg cyfieithu ym Mhrifysgol Manceinion yn 2006, ymunodd Sameh Hanna â Choleg Prifysgol Llundain fel Cymrawd Ôl-ddoethuriaeth Andrew Mellon, gan gyfrannu ymchwil ac addysgu mewn rhaglenni ôl-raddedig mewn astudiaethau cyfieithu. Yn ddiweddarach cafodd swyddi darlithio ym mhrifysgolion Salford a Leeds. Yn Leeds, ef oedd y cyfarwyddwr Astudiaethau Arabaidd, Islamaidd a'r Dwyrain Canol tan 2020. Ar hyn o bryd, mae'n ymgynghorydd cyfieithu’r Beibl gyda mudiad y United Bible Societies, yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Leeds ac yn rhan o gyfadran ymweliadol Ysgol Astudiaethau Cyfieithu Nida. Mae Sameh yn un o’r aelodau a sefydlodd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Cyfieithu ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol (IATIS) a bu’n gyd-olygodd ar ei chyfnodolyn, New Voices in Translation Studies, am nifer o flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae Sameh wedi cymryd golygyddiaeth gysylltiol dros y cyfnodolyn academaidd, Target. Yn ogystal â nifer o erthyglau cyfnodolion a phenodau mewn cyfrolau golygedig, cyhoeddodd ei fonograff, Bourdieu in Translation Studies: The Dynamics of Shakespeare Translation in Egypt (2016) a chyd-olygodd The Routledge Handbook of Arabic Translation (2020) gyda Routledge. Ar hyn o bryd, mae Sameh yn ysgrifennu monograff ar hanes cymdeithasol cyfieithu'r Beibl mewn Arabeg.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 4 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn