Ewch i’r prif gynnwys

Cyfryngau digidol mewn sefyllfaoedd o argyfwng: ailfeddwl am eu rôl a'u swyddogaeth

Dydd Llun, 1 Mawrth 2021
Calendar 14:30-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of mobile phone

Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i ddominyddu ein newyddion a'n cyfryngau, wrth i lywodraethau ledled y byd fynd i'r afael â'r argyfwng a'i effeithiau.  Bellach mae gan gynghorwyr gwyddonol broffiliau cyhoeddus uchel, ac maent yn ymddangos yn aml yn y cyfryngau i bwysleisio bod polisi'r llywodraeth yn cael ei 'arwain gan wyddoniaeth'.  Ar yr un pryd, mae'r pandemig wedi cyd-daro â hinsawdd o boblyddiaeth, 'ôl-wirionedd' a 'newyddion ffug', a wnaed yn haws gan gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol eraill oedd yn medru lledaenu gwybodaeth anghywir, ansicrwydd ac ofn.  Wrth i raglen frechu fyd-eang fynd yn ei hanterth, mae'r mudiad 
gwrth-frechu yn weithredol.

Beth fu rôl y cyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a newyddion lleol, ar ein trafodaeth gyhoeddus, agweddau ac ymddygiad yn ystod y pandemig cyfredol hwn?  Wrth i ni ddod allan o'r argyfwng hwn, a allem ni ailfeddwl am y rôl y mae’r cyfryngau a platfformau digidol yn eu chwarae wrth hwyluso llif gwybodaeth a deialog rhwng arbenigwyr, llunwyr polisi a'r cyhoedd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd argyfwng?

Ein panelwyr:

*    Yr Athro Andreas Hepp, Athro'r Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Bremen
*    Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Athro yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd
*    Yr Athro Ortwin Renn, Cyfarwyddwr Gwyddonol yn y Sefydliad Astudiaethau Cynaliadwyedd Uwch, Potsdam, a Chadeirydd Gweithgor SAPEA ar Making Sense of Science for Policy

*    Dr Nicholas Clifton, Arloeswr, authentiSci

Cadeirydd y weminar fydd yr Athro Ole Petersen, Is-lywydd, Academia Europaea.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ledled y byd.  Byddwch chi, y gynulleidfa, yn gallu rhyngweithio â'r panelwyr trwy Sesiwn Holi ac Ateb.

Mae'r digwyddiad hwn yn bartneriaeth rhwng: Academia Europaea, Prifysgol Bremen, Prifysgol Caerdydd, SAPEA (Cyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisïau gan Academïau Ewropeaidd) ac i gefnogi menter Cymru yn yr Almaen 2021, Llywodraeth Cymru.

Rhannwch y digwyddiad hwn