Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth Gwrth-System: Argyfwng Rhyddfrydiaeth y Farchnad mewn Democratiaethau Cyfoethog

Dydd Mercher, 24 Chwefror 2021
Calendar 13:30-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Global language based area studies stock image

Gweminar gyda yr Athro Jonathan Hopkin (Ysgol Economeg Llundain), sy'n cael ei chynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang sy'n seiliedig ar yr Iaith o dan thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol gyfan.

Crynodeb
Mae etholiadau diweddar yn y democratiaethau gorllewinol datblygedig wedi tanseilio sylfeini elfennol systemau gwleidyddol a oedd eisoes wedi gwrthsefyll pob her – o'r chwith a'r dde. Roedd ethol Donald Trump i lywyddiaeth yr Unol Daleithiau, fisoedd yn unig ar ôl i’r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn arwydd o newid dramatig yng ngwleidyddiaeth y democratiaethau cyfoethog.

Yn Anti-System Politics , mae Jonathan Hopkin yn olrhain esblygiad y newid hwn ac yn dadlau ei fod yn ganlyniad hirdymor i gefnu ar y model cyfalafiaeth egalitaraidd ar ôl y rhyfel yn y 1970au. Roedd y newid hwnnw'n golygu gwanhau'r broses ddemocrataidd o blaid ffurf anhryloyw, technegol o lywodraethu nad yw’n rhoi llawer o gyfle i bleidleiswyr ddylanwadu ar bolisi. Gydag argyfwng ariannol diwedd y 2000au daeth y trefniadau hyn yn anghynaladwy, gan nad oedd gwleidyddion y pryd yn gallu rhoi atebion i galedi economaidd. Mynnodd etholwyr newid, ac roedd yn rhaid i’r newid hwnnw ddod o’r tu allan i'r system. Gan ddefnyddio dull cymharol, mae Hopkin yn esbonio pam mae gwahanol fathau o wleidyddiaeth gwrth-system yn dod i'r amlwg mewn gwahanol wledydd, a sut mae ffactorau gwleidyddol ac economaidd yn effeithio ar raddau'r ansefydlogrwydd etholiadol sy'n dod i'r amlwg. Yn olaf, mae'n trafod goblygiadau'r newidiadau hyn, gan ddadlau mai'r unig ffordd i rymoedd gwleidyddol prif ffrwd oroesi yw iddynt fod yn fwy gweithredol yn y llywodraeth wrth amddiffyn cymdeithasau rhag cynnwrf economaidd.

Mae Anti-System Politics , sef dadansoddiad â sail hanesyddol o'r ffenomen wleidyddol fyd-eang bwysicaf ar hyn o bryd, yn bwrw golwg ar sut a pham mae'r byd wyneb i waered yn ôl pob golwg.

Bywgraffiad
Mae Jonathan Hopkin yn Athro Gwleidyddiaeth Gymharol yn Adran y Llywodraeth yn Ysgol Economeg Llundain. Mae'n awdur Party Formation and Democratic Transition in Spain (1999, Macmillan) ac Anti-System Politics: The Crisis of Market Liberalism in Rich Democracies (2020, Oxford University Press). Mae wedi cyhoeddi’n eang ym meysydd gwleidyddiaeth plaid ac economi wleidyddol Ewrop mewn cyfnodolion fel British Journal of Sociology, European Journal of Political Research, Governance, Journal of European Public Policy, New Political Economy, Review of International Political Economy, Party Politics, Politics and Society a West European Politics. Cyfeiriad: Adran y Llywodraeth, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain, Houghton St, Llundain WC2A 2AE (-bost: J.R.Hopkin@lse.ac.uk)

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 10 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn