Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth: Simon Bates

Dydd Mercher, 26 Mai 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

CESI speakers

Ers blynyddoedd lawer bellach, rydym wedi clywed sut roedd dysgu ac addysgu yn newid, sut roedd yn mynd yn fwy cymhleth, sut roedd parodrwydd a dyheadau myfyrwyr o radd prifysgol yn newid, ac nad oedd technoleg bellach yn cael ei hystyried fel rhywbeth ychwanegol dewisol. Dilynodd prifysgolion amrywiaeth o fentrau addysgol a oedd - ar y cyfan - yn eu symud yn gadarnhaol ond yn raddol tuag at roi mwy o bwyslais ar ddysgu ac addysgu a phrofiad y myfyriwr. Ac yna, daeth COVID.

Mewn cyfnod byr iawn ym mis Mawrth 2020 (dim ond diwrnodau i sicrhau bod cyrsiau cyfredol yn gallu parhau, wythnosau i gynllunio sut i symud ymlaen a graddio miloedd o fyfyrwyr, misoedd i ail-lunio'r portffolio cyfan o gyrsiau) roedd angen ail-lunio’r cynllun gwreiddiol ar gyfer addysg mewn prifysgol breswyl yn llwyr. Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, daeth yn gwbl amlwg mai fel hyn yr oedd pethau am fod am gryn amser cyn y gallai pethau ddychwelyd i 'fersiwn newydd o normal'.

Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn myfyrio ar brofiadau a heriau'r flwyddyn ddiwethaf, a sut y maent wedi amlygu materion o bwys o ran sut mae addysgu a dysgu yn cael ei drefnu, ei gefnogi a'i werthfawrogi mewn sefydliadau. Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol addysgu a dysgu 'ar ôl COVID', mae'n edrych fel y bydd agweddau ar addysgu a dysgu yn newid yn barhaol yn sgîl COVID yn ôl pob tebyg (hyd yn oed os nad ydym yn gwybod beth yn union fydd y newidiadau hyn eto ar draws ein gwahanol gyd-destunau sefydliadol). Byddaf yn trafod rhai o’r rhinweddau fydd eu hangen ar addysgwyr yn fy marn i i ffynnu yn yr amgylchedd hwn, yn ogystal â ffyrdd y gall sefydliadau helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn yn y gyfadran ac ymhlith y staff.

Rhan o'r Gweminarau Ymchwil Addysg STEM sy'n seiliedig ar Ddisgyblaeth (Ionawr i Fehefin 2021 ar ddydd Mercher 4pm GMT)

Mae'r gweminarau hyn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd / UCL, a drefnwyd gan Andrea Jiménez Dalmaroni (Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a LCN UCL), ac a noddir yn garedig gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal trwy zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn