Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth: Carl Wieman

Dydd Mercher, 21 Ebrill 2021
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dan arweiniad profion arbrofol o theori ac ymarfer, mae gwyddoniaeth wedi datblygu'n gyflym yn ystod y 500 mlynedd ddiwethaf. Dan arweiniad traddodiad a dogma yn bennaf, mae addysg wyddoniaeth wedi aros yn ganoloesol i raddau helaeth dros yr un cyfnod. Mae ymchwil am sut mae pobl yn dysgu erbyn hyn yn datgelu dulliau llawer mwy effeithiol o addysgu a gwerthuso dysgu na'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio yn y dosbarth gwyddoniaeth traddodiadol. Mae addysgu o’r fath yn fwy buddiol, ac mae hefyd yn dangos i fyfyrwyr sut i ddysgu yn y modd mwyaf effeithiol. Mae'r ymchwil hon yn gosod y llwyfan ar gyfer dull newydd o ddysgu ac addysgu. Bydd hwn yn gallu rhoi'r addysg wyddoniaeth berthnasol ac effeithiol sydd ei hangen ar gyfer pob myfyriwr yn yr 21ain ganrif. Byddaf hefyd yn ymdrin â ffyrdd mwy ystyrlon ac effeithiol o fesur ansawdd yr addysgu. Er bod y cyflwyniad yn canolbwyntio ar addysgu gwyddoniaeth a pheirianneg israddedig, gan mai yn y maes hwn y ceir y data mwyaf clir, mae’r egwyddorion sylfaenol yn dod o astudiaethau am sut y datblygir arbenigedd yn gyffredinol, ac maent yn berthnasol mewn sawl maes.

Rhan o'r Gweminarau Ymchwil Addysg STEM sy'n seiliedig ar Ddisgyblaeth (Ionawr i Fehefin 2021 ar ddydd Mercher 4pm GMT)

Mae'r gweminarau hyn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd / UCL, a drefnwyd gan Andrea Jiménez Dalmaroni (Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a LCN UCL), ac a noddir yn garedig gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal trwy zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn