Ewch i’r prif gynnwys

Sut gallwn ni sicrhau tai cynaliadwy nawr? Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... Kevin McCloud MBE

Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Kevin McCloud MBE

Bydd y Darlledwr Kevin McCloud yn ymuno â Dr Joanne Patterson, Uwch-gymrawd Ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ddydd Mawrth 9 Chwefror am 12.30 ar gyfer trafodaeth fywiog ynglŷn â sut y gallwn sicrhau tai cynaliadwy nawr.

Mae Kevin yn adnabyddus yn bennaf am ei gyfres, Grand Designs, sydd wedi ennill gwobr BAFTA, ac am ei waith ym maes cynaliadwyedd. Mae hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd (2013) a dyfarnwyd MBE iddo yn 2014.

Yn ystod y gweminar, bydd Kevin yn rhoi ei farn ar sut y gallwn sicrhau tai cynaliadwy nawr mewn adeiladau newydd a thrwy ôl-osod rhai eraill. Bydd hefyd yn trafod gyda Joanne yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y newid yn yr hinsawdd, a bydd yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â...  
Hwn yw’r ail mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â.... ydd yn dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gyda’n harbenigwyr rhagorol yma ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu.

Trefn y Digwyddiad  
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau ar Zoom yn ystod y sesiwn holi ac ateb.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth...., cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data.

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am gyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth.

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff University in conversation with