Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliannau Arddangos Ôl-Wrthdaro a Hyrwyddo Heddwch Curadu Gwrthdaro mewn Cyd-destunau Trawswladol ac ôl-drefedigaethol

Dydd Gwener, 15 Ionawr 2021
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cyfres o weithdai ar-lein ar ddiwylliannau arddangos ar ôl-wrthdaro a hyrwyddo heddwch o dan adain Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Bydd y gweithdy cyntaf hwn gyda'r siaradwyr gwadd Vikki Hawkins (Curadur, Orielau'r Ail Ryfel Byd, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Llundain), Eleanor Rowley (Prifysgol Caerfaddon) a Kieran Burns (Tŷ Hanes Ewropeaidd, Brwsel).

Mae astudiaethau gan Rosmarie Beier-de Haan a Wolfram Kaiser et al., ymhlith eraill, wedi nodi tuedd ar ddiwedd yr 20fed a dechrau'r 21ain ganrif tuag at wyddor amgueddfeydd sy'n ceisio mynd uwchlaw’r ffrâm genedlaethol er mwyn cydnabod profiadau a hunaniaethau trawswladol. Er bod llawer o amgueddfeydd milwrol a rhyfel yn dal yn rhwym wrth naratifau hunaniaeth genedlaethol, hyd yn oed i'r graddau eu bod yn cyflawni swyddogaeth ddeuol fel cofebau i'r meirw cenedlaethol mewn rhai achosion, gallwn hefyd nodi ymdrechion i gynnig safbwyntiau amlwladol a hyd yn oed trawswladol ar ryfel a gwrthdaro mewn amgueddfeydd fel yr Historial de la Grande Guerre yn Péronne,  Amgueddfa 'In Flanders Fields' yn Ieper, neu'r Amgueddfa Almaeneg-Rwsiaidd yn Berlin-Karlshorst. Yn fwy diweddar, mae galwadau am ddadwladychu amgueddfeydd a diwylliant cyhoeddus ar lefel ehangach wedi herio sefydliadau i ystyried profiadau'r rhai a wladychwyd.  Yn y gweithdy hwn, byddwn ni’n gofyn sut mae amgueddfeydd ar draws y byd yn ymateb i’r heriau hyn ac yn ystyried y cyfraniad gallan nhw ei wneud i ddiwylliant o heddwch trwy strategaethau arddangosol sy’n ceisio ymdrin â rhyfel mewn cyd-destunau trawswladol neu ôl-drefedigaethol.

Siaradwyr

Vikki Hawkins (Curadur, Orielau'r Ail Ryfel Byd, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Llundain)
Curadu Naratif Trawswladol yn Orielau Ail Ryfel Byd newydd yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol

Yn 2021, bydd yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain yn agor Orielau Ail Ryfel Byd newydd a fydd yn ceisio ail-leoli cylch gwaith traddodiadol yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, sef Prydain a'r Ymerodraeth, oddi mewn i gyd-destun byd-eang. Y nod yw ehangu ein ffocws i gynnwys y miliynau o bobl o bob ochr a gafodd eu dal yn y gwrthdaro. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer deall profiadau ystod ehangach o bobl, ac o ganlyniad gall ymgysylltu ag ymwelwyr nad ydynt o Brydain ac ymwelwyr rhyngwladol sydd yn hanesyddol wedi teimlo eu bod wedi'u heithrio o'r dehongliad unigol o brofiad Prydain mewn rhyfel.

Bydd y papur hwn yn trafod ym mha ffyrdd datblygwyd naratif trawswladol o’r Ail Ryfel Byd ar gyfer yr orielau newydd.  Bydd yn dangos bod gwrthrychau wedi'u dewis i dynnu sylw at batrymau digwyddiadau hanesyddol a'r cysylltiadau trawswladol rhyngddynt. Bydd yn awgrymu bod asiantaeth curaduron yn y broses o ymchwilio, dewis a hwyluso rhoddion neu wrthrychau benthyg yn effeithio ar sut gall yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol roi amlygrwydd i hanesion a wthiwyd i’r cyrion.  Bydd hefyd yn awgrymu, er gwaethaf ymdrechion i adeiladu naratif mwy rhyngwladol, ein bod yn rhagweld y bydd rhai o'n cynulleidfaoedd craidd yn disgwyl i'r orielau ganolbwyntio ar y cof diwylliannol o brofiadau cenedlaethol Prydain, er enghraifft y Blitz, dogni, a theatrau rhyfel y bu milwyr Prydain yn rhan ohonynt gan mwyaf. O ganlyniad, bydd y papur hwn hefyd yn archwilio sut bydd tensiynau rhwng naratifau cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu lliniaru trwy drafodaethau a gweithdai gyda grwpiau cymunedol a chynghorwyr academaidd i ddatgymalu llawer o'r chwedlau am yr Ail Ryfel Byd yn y pen draw.


Eleanor Rowley (Prifysgol Caerfaddon)
Archdeipiau ac unigolion: cymharu cynrychiolaeth safbwyntiau trawswladol mewn dwy amgueddfa ryfel ffrynt y gorllewin

Mae'r papur hwn yn cymharu disgwrs a gwyddor gweithredu dwy amgueddfa Rhyfel Byd Cyntaf sydd ar y safle: yr Historial de la Grande Guerre yn y Somme yn Ffrainc, ac Amgueddfa In Flanders Fields yn Ypres, Gwlad Belg. Sefydlwyd y ddwy amgueddfa yn ystod y 1990au, trobwynt arwyddocaol wrth i'r gwrthdaro basio o gof wedi'i gyfleu i gof diwylliannol. Er bod yr amgueddfeydd yn rhannu ethos gosmopolitaidd a neges gymodol, mae eu gwyddorau gweithredu unigryw yn defnyddio dulliau cyferbyniol i ennyn diddordeb ymwelwyr. Trwy ymchwil archifol, cyfweliadau â gwneuthurwyr amgueddfeydd, ac arsylwadau maes, mae'r papur hwn yn olrhain sut mae'r strategaethau hyn wedi'u cydgrynhoi yn yr amgueddfeydd yng nghyd-destun y don  ddiweddar o goffadwriaeth sy'n nodi'r canmlwyddiant. 


Kieran Burns (Tŷ Hanes Ewropeaidd, Brwsel)
Llenwi’r Bwlch (Bylchau)! – Olrhain Naratifau Gwrthdrawiadol yn y Tŷ Hanes Ewropeaidd 

Mae’r Tŷ Hanes Ewropeaidd ym Mrwsel yn cyflwyno'r arddangosfa barhaol gyntaf sy'n adrodd hanes o safbwynt Ewropeaidd ryngwladol. Pa le sydd gan naratifau rhyfel a threfedigaethedd yn y cyd-destun hwn? A all naratif cyffredin ddeillio o hanesion cenedlaethol gwrthdrawiadol? Gan fanteisio ar fy mhrofiad wrth ddatblygu imperialaeth y 19eg ganrif ac orielau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y sefydliad newydd hwn, byddaf yn trafod yr heriau ymarferol a deallusol o ffurfio naratifau cynhwysol ac aml-bersbectif sy'n seiliedig ar wrthrychau yng ngofod cyfyngedig yr amgueddfa.


Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 8 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.


Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.


Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn