Ewch i’r prif gynnwys

Gohebu yn ystod pandemig: Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... Babita Sharma (BA 1998)

Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2020
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Babita no dates

Mae Babita Sharma, Cyflwynydd Newyddion y BBC, yn ymuno â Karin Wahl-Jorgensen, Athro yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, i drafod ei phrofiadau o ohebu yn ystod pandemig.

Mae Babita, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda gradd israddedig mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu, bellach yn cyflwyno ar draws Newyddion y BBC gan gynnwys BBC Breakfast a BBC World News.

Yn ystod y gweminar hwn, bydd Babita yn rhannu ei phrofiad o ohebu yn ystod y flwyddyn ddigynsail hon a bydd yn trafod gyda Karin bwysigrwydd ymdrin â'r pandemig mewn ffordd gyfrifol. Bydd hefyd yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â...  Hwn yw’r cyntaf mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â...,fydd yn dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gyda’n harbenigwyr rhagorol yma ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu.

Trefn y Digwyddiad   Bydd yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom, a bydd capsiynau i'w gweld trwy gydol y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau ar Zoom yn ystod y sesiwn holi ac ateb.

Byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cofrestru Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data.

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am gyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth.

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff University in conversation with