Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Sesiwn dros Frecwast gyda'r Athro Alan Felstead a'r Athro Jonathan Morris

Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2020
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Picture of audience

Bydd y sesiwn hon yn darparu cyfle i glywed gan ddau arbenigwr ar sut mae ein bywydau Gwaith yn newid oherwydd y pandemig. Ydy’n ni’n fwy cynhyrchiol? A yw rheolaeth yn haws neu’n fwy cymhleth? Ymunwch â ni ddarganfod yr atebion.

Yn archwilio’r ymchwydd diweddar mewn gweithio gartref, ei effaith ar gynhyrchiant a’i ddyfodol hir-dymor. 

Bydd Alan Felstead, Athro Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau, yn archwilio’r ymchwydd diweddar mewn gweithio gartref, ei effaith ar gynhyrchiant y gweithiwr, a’r tebygrwydd y bydd yn nodwedd hir-dymor i’n ffordd o waith. Bydd y cyflwyniad wedi ei selio ar ddadansoddiadau gwreiddiol o dri arolwg gwladol o weithwyr, yn ogystal â chasgliad o arolygon cyflogwyr.

Sut oedd hi i chi? Covid, gweithio o bell a dyfodol gwaith  

Bydd Jonathan Morris, Athro o adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliadau Ysgol Busnes Caerdydd yn myfyrio ar sut brofiad oedd i ddetholiad reolwyr o amrywiaeth o sectorau a diwydiannau a gwahanol demograffeg, yn gweithio gartref yn ystod pandemig Covid.  Mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at y pethau positif a negyddol, a beth, os unrhyw beth, y mae hyn yn ragdybio ar gyfer patrymau gwaith rheoli yn y dyfodol.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education