Ewch i’r prif gynnwys

Fe ddaethon ni, gwelsom ni, aethon ni â samplau yn ôl i'r Ddaear!

Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

DWI public image

Mae NASA wedi bod yn siarad am Ddychwelyd Samplau o blaned Mawrth (MSR) ers y 70’au, ond nawr mae’n digwydd go iawn! Y crwydrwr ‘Perseverance’ yw’r cam cyntaf yn MSR ac mae ar ei ffordd ar hyn o bryd; yn gobeithio glanio ar 18 Chwefror 2021. Ond mae dod â samplau arallfydol yn ôl i'r Ddaear yn cyflwyno her halogi. Mae Dr Holt a’i gydweithwyr wedi bod yn mynd i’r afael â’r materion hyn trwy fabwysiadu technolegau o sectorau fel geneteg, bio-dechnoleg a meddygaeth. Eu hateb yw’r Ynysydd â Wal Ddwbl (DWI). Bydd Dr Holt yn siarad am yr hyn sy'n newydd, y wyddoniaeth y tu ôl i drin pathogen posibl yn ddiogel a sut gellir ailgyflwyno'r dechnoleg ym myd diwydiant.

Rhannwch y digwyddiad hwn