Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd ICE/ IEEE ITMC 2021 ar Arloesedd, Technoleg a Rheoli Peirianneg ar gyfer ein Gwydnwch Cymdeithasol, Amgylcheddol ac Economaidd

Calendar Dydd Llun 21 Mehefin 2021, 09:00-Dydd Mercher 23 Mehefin 2021, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn y ddau ddegawd diwethaf, mae Cynhadledd ICE/IEEE ITMC wedi dod ag academyddion, ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ynghyd, gan gyfrannu at y ddadl fyd-eang ar ymchwil, gwyddoniaeth ac arloesi. Mae Cynhadledd ICE yn un o’r cynadleddau blaenllaw a gysylltir â Chymdeithas Rheoli Technoleg a Pheirianneg ICEE (ICEE TEMS). Eleni, hoffem eich gwahodd i’n cymuned gynyddol o ymchwilwyr, arloeswyr, diwydianwyr, peirianwyr ac ymarferwyr i rannu eu mewnwelediadau, arferion, prosiectau ac astudiaethau achos sy’n mynd i’r afael â thema’r gynhadledd ‘Arloesedd, Technoleg a Rheoli Peirianneg ar gyfer ein Gwydnwch Cymdeithasol, Amgylcheddol ac Economaidd’.

Yn 27ain Gynhadledd Rheoli Technoleg Ryngwladol ICE/IEEE, gelwir ar ymchwil, gwyddoniaeth ac arloesedd am syniadau, papurau, dadleuon, mentrau a phrosiectau gwreiddiol. Gwahoddir awduron, trefnwyr gweithdai / tiwtorialau, a chyfranogwyr i gyfrannu at lunio’r persbectif ar atebion peirianneg, technoleg ac arloesedd ar gyfer heriau diwydiannol a chymdeithasol.

Mae Cynhadledd ICE/IEEE ITMC yn gwahodd cyflwyniadau ar bapurau o ansawdd uchel yn y digwyddiad rhyngwladol cyntaf hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno papur ar-lein drwy ice-conference2021.org/call-for-papers/ 

Yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd
Parc Cathays
Cardiff
Caerdydd
CF10 3NP

Rhannwch y digwyddiad hwn