Ewch i’r prif gynnwys

Y Drafferth ag Is-deitlo yw'r Mater o Ddehongli

Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2020
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Venuti

Darlith gyhoeddus ar-lein gydag y siaradwr gwadd, yr Athro Lawrence Venuti (Temple University). Trefnir y digwyddiad hwn gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Mae'r ysgolheictod ar is-deitlo o fewn astudiaethau cyfieithu yn llawn cysyniad penodol o gyfieithu, sy'n cael ei alw'n fodel offerynnol gan y siaradwr gwadd, lle tybir bod yr is-deitl yn ailgynhyrchu neu'n trosglwyddo sefydlyn sydd yn y siarad ar drac sain ffilm neu sy'n cael ei achosi ganddo, boed yn ei ffurf, ei ystyr neu ei effaith. Mae pa mor annigonol yw'r model hwn, a'i fethiant i gynnig cyfrif cynhwysfawr a threiddgar o is-deitlo, yn dod yn amlwg wrth edrych yn ofalus ar unrhyw achos o is-deitlo pan fydd crynhoi neu leihau yn digwydd--gan fod hynny'n anochel oherwydd y cyfyngiadau a wynebir o ganlyniad i'r cyfrwng, yn ogystal â'r gwahaniaethau diwylliannol.

Bydd y papur hwn yn dadlau o blaid mabwysiadu model esboniadol lle ystyrir cyfieithu fel gweithred ddehongliadol sy'n amrywio'r deunydd ffynhonnell yn ôl yr amodau--ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol--y mae'r cyfieithydd yn dewis i fframio'r dehongliad. Mae'r model a gynigir yma yn amrywio'n radical o'r traddodiad ebsoniadaeth o dybio nad oes unrhyw ddeunydd ffynhonnell ar gael mewn rhyw ffurf ddigyfrwng, bod unrhyw sylw arno yn ddehongliad yn barod. Mae'r astudiaethau achos yn cynnwys Psycho gan Alfred Hitchcock (wedi'i gyfieithu i Ffrangeg ac Eidaleg), y rhaglen deledu M*A*S*H (wedi'i chyfieithu i Ddaneg), ac Annie Hall gan Woody Allen (wedi'i gyfieithu i Sbaeneg). Rhoddir sylw hefyd i sylwebaeth yr is-deitlydd Ffrengig, Henri Béhar, ar ei waith yn cyfieithu ffilm Alain Cavalier, Thérèse, i Saesneg.

Bywgraffiad
Damcaniaethwr a hanesydd cyfieithu yw Lawrence Venuti sy'n cyfieithu o Eidaleg, Ffrangeg a Chataleneg. Yn fwy diweddar, fe yw awdur Contra Instrumentalism: A Translation Polemic (2019), golygydd The Translation Studies Reader (4ydd argraffiad, 2021), a chyfieithydd J.V. Foix's Daybook 1918: Early Fragments (2019).

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 26 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn