Ewch i’r prif gynnwys

Cenedlaethau’r dyfodol, twf, a datblygiad ar ôl Covid-19: cynyddu cydnerthedd yn ein cymunedau

Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020
Calendar 09:30-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pair of hands holding a seedling

Mae Cymru'n aml yn cael ei defnyddio fel enghraifft o arloesi ar ddatblygu cynaliadwy. Hyrwyddo lles a chenedlaethau'r dyfodol yw'r datblygiad diweddaraf. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn arwydd o newid mewn polisi cyhoeddus tuag at y rhai sydd heb eu geni eto. Mae arloesedd sefydliadol yn atgyfnerthu hynny drwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cynrychioli anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn well. Mae gwaith diweddar Swyddfa Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn tynnu sylw at yr enillion sydd wedi’u gwneud wrth gynllunio ar gyfer yr hirdymor ond hefyd at yr heriau gwirioneddol o ran gwneud penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Dwy o'r anawsterau pwysicaf a wynebir gan y sector cyhoeddus wrth gynllunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw:

1. Meddwl am genedlaethau'r dyfodol yn hytrach na dyfodol cenedlaethau'r presennol yn unig, a

2. Llunio modelau datblygu sy'n gallu herio taflwybrau cyfredol. Y rhagdybiaeth yw y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn well eu byd oherwydd dros amser bydd yr economi'n tyfu ac felly bydd eu lles yn gwella.

Gallai'r argyfwng COVID-19 presennol ddwysáu'r ddwy broblem ymhellach gan fod ymdrechion yn canolbwyntio ar orwelion tymor byrrach ac yn atgynhyrchu arferion datblygu sy'n bodoli eisoes. Felly, bydd yn amser da i greu sefyllfa lle bydd cyfle i ail-feddwl.

Rhaglen i'w chadarnhau.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â iande@caerdydd.ac.uk erbyn 12/11/2020 i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad

Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Wrth gofrestru, noder y bydd eich data’n cael ei gadw yn unol â’n datganiad preifatrwydd, sydd ar gael yma.

Rhannwch y digwyddiad hwn