Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Fyd-eang am Feddwl Mawr? Sut gwnaeth Hannah Arendt geisio sicrhau Gwobr Nobel i Karl Jaspers

Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda’r siaradwr gwadd, yr Athro Carlos Spoerhase (Prifysgol Bielefeld), gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb

Byddai ail-lunio hanes Gwobr Nobel a'i heffaith ar farchnata llenyddiaeth y byd yn dasg hynod uchelgeisiol. Serch hynny, mae llythyrau a dogfennau archifol yn cynnig cipolwg ar ei weithdrefnau. Gan gymryd ysgoloriaeth ddiweddar ym maes cymdeithaseg llenyddiaeth fel man cychwyn, mae'r cyflwyniad yn archwilio ymdrechion Hannah Arendt i sicrhau Gwobr Nobel ar gyfer Karl Jaspers fel astudiaeth achos sy’n ymwneud â gobaleiddio'r maes llenyddol yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r cyflwyniad yn dangos sut gwnaeth Arendt a'i chynghreiriaid yn y maes cyhoeddi yn yr Almaen ac America ysgogi eu cysylltiadau rhyngwladol â phobl ddylanwadol yn Sweden, Norwy, y Swistir, Ffrainc, yr Eidal, Prydain Fawr, Japan a'r Unol Daleithiau i sicrhau'r \"wobr fyd-eang\" am “feddwl mawr\". Ar ben hynny, mae hefyd yn ceisio egluro pam methodd yr ymdrechion rhyngwladol teg hyn yn y pen draw.

Bywgraffiad

Mae Carlos Spoerhase yn addysgu hanes diwylliannol a llenyddiaeth Almaeneg ym Mhrifysgol Bielefeld. Mae'n aelod o staff golygyddol \"Zeitschrift für Ideengeschichte\" ac yn un o gyd-olygyddion \"Deutsche Vierteljahrsschrift für Literaturwissenschaft und Geistesgeschichte\". Ei bapur ymchwil diweddaraf yw: “A Monster in Its Breadth and Length”: Schiller’s Wallenstein and the Poetics of Scale. Yn: Modern Philology 118 (2020), 87–106.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 19 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi digwyddiad

Ni fydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn