Ewch i’r prif gynnwys

COVID-19 yn Kenya: Iechyd Byd-eang, Hawliau Dynol a’r Wladwriaeth ar Adeg Pandemig.

Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Webinar

Mae camau a gymerwyd i atal lledaeniad y coronafeirws wedi cael goblygiadau sylweddol ar les a hawliau dynol cymunedau bregus yn Kenya. Mae cyrffyw ar draws y wlad, cau marchnadoedd cyhoeddus,, cyfyngiadau ar allu ennill bywoliaeth, wedi arwain at ddirywiad deietau a statws maeth llawer o ddinasyddion. Mae mentrau’r Llywodraeth a rhai dyngarol i ddiwallu’r diffyg wedi bod yn annigonol. Mae ymgyrchu cymdeithas sifil ac ymgyfreitha wedi canolbwyntio ar yr effeithiau cymdeithasol hyn, ac ar y toriad helaeth o hawliau dynol a gynrychiolir gan y mesurau eu hunain a’u gweithredu gan luoedd y wladwriaeth. Mae’r Senedd a chyrff a weinyddir yn gyfansoddiadol, gan gynnwys Comisiwn a Phwyllgor Hawliau Dynol Cenedlaethol Kenya ar Weinyddiaeth Cyfiawnder, wedi dechrau archwilio’r polisïau hyn a’u heffeithiau. Mae hon yn sefyllfa sy’n esblygu fydd yn profi gallu sefydliadau gwladwriaeth Kenya i reoli argyfwng iechyd difrifol mewn modd sy’n diwallu anghenion cymunedau tlawd ac wedi’u hymyleiddio. Bydd hefyd yn darlunio gwydnwch y cymunedau hyn eu hunain, yn ogystal â’u gallu i ddiffinio eu buddiannau eu hun a herio’r wladwriaeth ac asiantaethau eraill sy’n eu hesgeuluso neu’n aflonyddu arnynt.

Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol prosiect a ariennir gan AHRC, sy’n dogfennu ac yn gwerthuso ymatebion cyfreithiol a pholisi i bandemig COVID-19 yn Kenya, cydweithrediad Cyfraith Caerdydd a Chyfiawnder Byd-eang gyda Chanolfan Poblogaeth Affricanaidd ac Ymchwil Iechyd, a Sefydliad Cyfansoddiad Katiba, Nairobi. Mae’n ystyried tystiolaeth o gyfweliadau ac arolwg desg ynghylch dau brif gwestiwn:

Ydy ymateb Kenya i COVID-19 yn atgyfnerthu neu’n rhwystro taflwybr yr wladwriaeth o awdurdodaeth i ddemocratiaeth, ac o anghydraddoldeb i ddiwygio cymdeithasol?  

 Ydy gwarantau ynghylch cyfraith hawliau dynol yn effeithiol o ran tywys a chyfyngu pwerau iechyd cyhoeddus gorfodol mewn sefyllfa pandemig?

Rhannwch y digwyddiad hwn