Ewch i’r prif gynnwys

Cyflymu Cyfrifiadureg

Calendar Dydd Mercher 28 October 2020, 09:30-Dydd Iau 29 October 2020, 14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Accelerating Computer Science title

Bydd Hwb Technocamps Caerdydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn lansio rhaglen Cyflymu Cyfrifiadureg ar gyfer disgyblion blywddyn 12 ar draws Cymru sydd yn astudio A/S Cyfrifiadureg.

Byddwn yn darparu sessiynnau adolygu AM DDIM ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 A/S Cyfrifiadureg CBAC yn ystod hanner tymor mis Hydref.  Bydd y rhaglen yn cael ei ddarparu gan addysgwr Cyfrifiadureg profiadol sydd gyda profiad sylweddol o ddysgu ac arwain A/S Cyfrifidureg CBAC.

Bydd sessiynnau mis Hydref yn ffocysu ar yr agweddau yma o fanyleb yr AS Cyfrifiadureg CBAC, Uned 1 :

  • Caledwedd a cyfathrebu
  • Gweithrediadau rhesymegol
  • Cynrychioli data a strwythurau data
  • Y System weithredu
  • Alogriddmau a rhaglenni
  • Egwyddorion rhaglennu
  • Peiriannu meddalwedd
  • Adeiladu rhaglen
  • Diogelwch data
  • Materion moesegol a chyfreithiol

Dyddiadau

Hydref 28ain a 29ain

Amser

9.30 – 10.00       Cofrestru ar-lein

10.00 – 14.30     Gweithdai (toriad o 1/2 awr am ginio)

Rhifau

Mae’r digwyddaid yma am ddim i’r dysgwyr. Fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly gofynwn yn garedig i chi ddod dim ond os gallwch ymrwumo i’r amseroedd penodedig ar y ddau ddiwrnod.

Ymwrthodiad

Nid yw’r digwyddiad yma wedi ei gefnogi gan CBAC mewn unrhyw ffordd.  Mae barnau’r cyflwynydd yn rai personol. Nid yw’r cyflwynydd na’r Brifysgol yn gyfrifol am ganlyniadau arholiad disgyblion nag am ddylanwad y sessiynnau ar gyflawniad y disgyblion.  Mae’r sessiynnau yn cael eu darparu i roi cymorth ychwanegol i’r disgyblion ochr yn ochr gyda’r hyn maent yn ei dderbyn yn yr ysgol.

Rhannwch y digwyddiad hwn