Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg yn y cwricwlwm newydd: Cyfleoedd a heriau i ysgolion cyfrwng Saesneg

Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2020
Calendar 13:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Y Gymraeg yn y cwricwlwm newydd | Welsh in the new curriculum

Gyda chyflwyniad Cwricwlwm i Gymru 2022 yn prysur agosáu, mae’n amserol iawn trafod rôl y Gymraeg yn y cwricwlwm newydd. Yn y seminar ymchwil hwn, archwilir y prif ddatblygiadau a gyflwynir yn y cwricwlwm parthed dysgu ac addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion, gyda golwg benodol ar y continwwm iaith a’r ffocws o’r newydd ar ddatblygu cymhwysedd cyfathrebol. Yna, trafodir y cyfleoedd a’r heriau y mae ysgolion cyfrwng Saesneg yn eu hwynebu wrth iddynt gynllunio dysgu ac addysgu’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd. Cyflwynir y ddadl dros gefnogi ysgolion i ymgymryd ag ymagwedd holistaidd at ddatblygu’r Gymraeg, gyda chyfeiriad penodol at Dysgu Iaith a Chynnwys Integredig (CLIL) fel cyrchddull hyblyg y gellid ystyried ei ddatblygu maes o law.

Traddodir y seminar hon yn Gymraeg.

Darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr. Alex Lovell. Yn Ionawr 2019, cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym maes addysg Gymraeg Ail Iaith yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Yn ei draethawd doethurol, canolbwyntia ef ar sut orau y gellir cyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn llwyddiannus mewn ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg yng Nghymru. Yn fwy diweddar, mae gwaith ymchwil Alex wedi bod yn canolbwyntio ar y continwwm Cymraeg a sut y mae’r cysyniad o gontinwwm dysgu iaith yn cyd-fynd â’r ffocws newydd ar ddatblygu cymhwysedd cyfathrebol yn y Gymraeg a geir yn y cwricwlwm newydd i Gymru. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil y mae: addysg Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith; caffael ail iaith; polisi iaith ac addysg yng Nghymru; profi ac asesu ail iaith; dwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog.

Rhannwch y digwyddiad hwn