Ewch i’r prif gynnwys

Ydyn ni wedi camddeall tectoneg platiau? Safbwynt newydd ynghylch ymlediad gwaelod môr ar gribau canol cefnfor sy’n ymledu’n arafach

Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2020
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dyma gyfle i deithio i’r cefnforoedd dyfnaf ar y llongau ymchwil eigionegol diweddaraf gyda’r Athro Chris MacLeod o Brifysgol Caerdydd, wrth iddo ef a’i gyd-ddaearegwyr morol yn cwestiynu’r farn draddodiadol ar hanfodion tectoneg platiau: sut caiff cramen gefnfor newydd ei chreu gan ymlediad gwaelod môr ar gribau canol cefnfor. Mae’r cadwyni hyn o losgfynyddoedd dan ddŵr yn gorchuddio dau draean o’r blaned ond maen nhw wedi cael eu harolygu’n llai helaeth nag arwyneb Plwton. Dysgwch sut mae darganfyddiadau a wnaed dan amgylchiadau heriol gan yr alldeithiau gwyddonol diweddaraf wrth ffin olaf y Ddaear yn arwain at ddealltwriaeth newydd, wahanol iawn o ymlediad gwaelod môr.

Rhannwch y digwyddiad hwn