Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor Gwyddonol – Beth sy'n gweithio mewn Argyfwng?

Dydd Mercher, 16 Medi 2020
Calendar 12:30-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science Advice – What works in a Crisis?

Cyflwyniad


Yn 2019, cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd adolygiad o arferion gorau mewn rhoi cyngor gwyddonol, gan gyhoeddi cyfres o adroddiadau allweddol. Roeddent yn cynnwys y Ganolfan Ymchwil ar y Cyd a’r Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol, ynghyd ag adolygiad tystiolaeth cynhwysfawr gan gonsortiwm academïau Ewrop, SAPEA, a gydlynwyd gan Academia Europaea. Yn fwy diweddar, mae'r Cynghorwyr a'r Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gyngor gwyddonol yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Ynghylch y gweminar


Yn y gweminar 90 munud hwn, bydd prif gynghorwyr gwyddonol, arbenigwyr a staff y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried pa mor effeithiol y mae Ewrop yn ymateb i'r her a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Byddant yn rhannu profiadau ymarferol o roi cyngor gwyddonol yn wyneb cymhlethdod, ansicrwydd a gwelededd cyhoeddus digynsail yn ystod cyfnod y Coronafeirws; yn ogystal â'r ffordd orau o gymhwyso fframweithiau ac arferion rhoi cyngor gwyddonol i sicrhau mwy o wytnwch yn dilyn Covid-19.

Ein panel o siaradwyr

Bydd y gweminar yn cael ei gymedroli gan yr Athro Ole Petersen, Is-Lywydd Academia Europaea a Chyfarwyddwr Hwb AE Caerdydd, a'i gynnal gan SAPEA.

Cofrestrwch nawr

 

Rhagor o wybodaeth am Wythnos Deialog Fyd-eang INGSA

Mae’r gweminar yn rhan o Wythnos Deialog Fyd-eang INGSA o’r teitl ‘Cyngor Gwyddonol a COVID-19: Beth ydym ni'n ei ddysgu?’ a gynhelir rhwng 14 a 18 o Fedi 2020. Dr Soumya Swaminathan, Prif Wyddonydd Sefydliad Iechyd y Byd, fydd y prif siaradwr ar gyfer yr Wythnos Deialog Fyd-eang. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau i'w gweld yma.

 

Rhagor o wybodaeth am waith AE Caerdydd ym maes Cyngor Gwyddonol

Fel aelod o gonsortiwm academïau Ewropeaidd (SAPEA), cydlynodd Academia Europaea adolygiad tystiolaeth allweddol ar arferion gorau mewn rhoi cyngor gwyddonol. Mae'r adroddiad, Making Sense of Science for Policy, ar gael yma.

Rhannwch y digwyddiad hwn