Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth mewn iechyd ar-lein!

Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2020
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health

Yn galw ar holl ddisgyblion Gwyddoniaeth blwyddyn 12.

Wyddoch chi y gall cariad at wyddoniaeth fynd â chi lawr sawl llwybr gyrfa?

Hoffech chi ddysgu am y gwahanol ffyrdd y gall gwyddoniaeth weithio? Beth am gael y cyfle i holi ymchwilwyr sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd ymchwil iechyd? Eisiau ychydig o naratif i’ch cefnogi i lenwi’ch ceisiadau UCAS?

Os IE yw’r ateb.....ymunwch â ni, y tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer sesiwn ar-lein ryngweithiol BYW lle byddwch yn:

  • Dewch i gwrdd ag ystod o ymchwilwyr (gan gynnwys gwyddonwyr sy’n gweithio ar COVID 19)
  • Cymerwch ran mewn cwis gwyddoniaeth ar-lein gyda gwobrau talebion Amazon ar gyfer y rheiny yn y 1af, 2il a’r 3ydd safle
  • Holwch banel o arbenigwyr (gan gynnwys israddedigion meddygol, myfyrwyr PhD, Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, staff Derbyniadau)
  • Dewch i weld y tu mewn labordy ac arbrawf ar waith.

Rhannwch y digwyddiad hwn