Ewch i’r prif gynnwys

Ewrop i Gymru: Ymgysylltiad trawswladol â'r UE yn y dyfodol

Dydd Mercher, 27 Mai 2020
Calendar 16:00-17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Mae’n bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd gyhoeddi gweminar gyhoeddus gyda Guus Muijzers o'r Comisiwn Ewropeaidd, Polisïau Rhanbarthol a Threfol DG.

Bu'n swyddog desg rhwng 2009-2016 ar ddwsin o Raglenni Cydweithio Trawsffiniol, yn bennaf yng nghanol Ewrop. Ers 2016, mae hefyd yn swyddog desg ar gyfer y Deyrnas Gyfunol (Cymru a Lloegr yn benodol). Bydd Guus Muijzers yn trafod gwerth ychwanegol cydweithio wrth fynd i'r afael â phroblemau cyffredin, gan gynnig persbectif Ewropeaidd unigryw ar faterion presennol megis Covid-19, Brexit a Chydweithrediad Tiriogaethol Ewropeaidd. Yn y bôn, bydd y gweminar yn trafod yr opsiynau sydd ar gael, a'r rhwystrau parhaus o ran ymgysylltiad rhyngwladol rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol.

Caiff ei chadeirio gan Dr Giada Lagana, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru; a Dr Rachel Minto, darlithydd Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Byddwn yn derbyn cwestiynau ymlaen llaw ar gyfer y sesiwn holi ac ateb er mwyn hwyluso'r digwyddiad. Yn amlwg, bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau mewn ymateb i bwyntiau'r panelwyr. Fodd bynnag, os hoffech anfon cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch at LaganaG@Cardiff.ac.uk erbyn 10am ddydd Mercher 27 Mai.

Bydd dolen yn cael ei hanfon at bawb sydd wedi cofrestru cyn y digwyddiad.

Rhannwch y digwyddiad hwn