Ewch i’r prif gynnwys

Cyngerdd Dathlu 400 Mlynedd ers geni Isabella Leonarda

Dydd Gwener, 20 Mawrth 2020
Calendar 19:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Isabella Leonarda
Wedi'i ffurfio gan eu cyfarwyddwr cerdd Peter Leech yn 2008, mae Cappella Fede (a enwyd ar ôl Innocenzo Fede, maestro di cappella o Gapel Catholig Llundain y Brenin Iago II), yn cynnwys perfformwyr sy'n gweithio gydag ensemblau lleisiol ac offerynnol cyfnod gorau'r DU. Mae’r perfformwyr wedi arbenigo mewn cerddoriaeth grefyddol a seciwlar o c.1650- c.1790. Maent ar y brig o ran yr ymchwil cerddolegol diweddaraf. Maent wedi perfformio ystod eang o weithiau gan gynnwys perfformiadau modern cyntaf o weithiau baroc a ddarganfyddwyd yn ddiweddar, a darnau o’r cyfnod clasurol cynnar fel gan gyfansoddwyr tebyg i Innocenzo Fede, Sebastiano Bolis, Antonio Cossandi, Thomas Kingsley SJ, Miguel Ferreira, Antoine Selosse SJ, Niccolò Jommelli a Giovanni Battista Costanzi. Buont yn rhoi cyngherddau yn Lerpwl, Dyrham, Henffordd, Llundain a Rhufain, a llawer man arall. Disgrifiwyd eu CD The Cardinal King (Toccata Classics) ar Radio Review Radio3 fel: ‘a consort singing second to none’. Mae’r cyngerdd yma yng Nghaerdydd yn cynnwys cerddoriaeth lleisiol nodedig i ddathlu 400 mlynedd ers geni’r lleian a’r gyfansoddwraig Isabella Leonarda
Gweld Cyngerdd Dathlu 400 Mlynedd ers geni Isabella Leonarda ar Google Maps
Teml Heddwch
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

School of Music concert series