Ewch i’r prif gynnwys

Poblyddiaeth a Llywodraethu ar gyfer Datblygu’n Gynaliadwy ar Adeg Gythryblus gan Susan Baker a Matthew Quinn

Dydd Gwener, 14 Chwefror 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Erbyn hyn, ystyrir bod angen systemau cymhleth o lywodraethu aml-sector ac aml-lefel ac sy'n agored i brosesau cyfranogol ac atblygol er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae hyn wedi'i ymgorffori yn egwyddorion normadol cydraddoldeb rhwng ac o fewn cenedlaethau. Fodd bynnag, mae arferion llywodraethu wedi cael eu hail-lunio gan dueddiadau rheolaethol a neo-ryddfrydol, gan ddargyfeirio arferion oddi wrth y datblygu cynaliadwy dychmygol gwreiddiol. At hynny, mae ymdrechion llywodraethu bellach yn wynebu cyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a nodweddir gan lymder a gwleidyddiaeth boblyddol. Mae’r ‘adeg gythryblus’ hon yn cynnig gwerthoedd sy’n gwrth-ddweud yn uniongyrchol y datblygu cynaliadwy dychmygol. Rhoddir sylw arbennig i'r heriau y mae cynnydd poblyddiaeth asgell dde yn eu dwyn i lywodraethu ar gyfer datblygu cynaliadwy.