Ewch i’r prif gynnwys

Strategaethau gofod cyhoeddus, gwleidyddiaeth a goroesi: Gwerthwyr stryd yn India drefol

Dydd Iau, 27 Chwefror 2020
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Discussing the central problem and struggle of a vendor’s utilisation of public space in Mumbai
Mae’r broblem a’r drafferth greiddiol i fywoliaeth fregus gwerthwyr stryd yn seiliedig ar sut y defnyddir gofod cyhoeddus. Ar sail data cynradd a gasglwyd ym Mwmbai, mae’n trafod sut mae gwerthwyr stryd yn ennill bywoliaeth er gwaethaf diffyg fframweithiau cyfreithiol a sefydliadol priodol, drwy drefniadau ad hoc, gan greu sefydliadau anffurfiol a thrafod gydag asiantau ffurfiol ac anffurfiol yn yr economi drefol. Mae gwerthwr stryd yn ymarfer dau fath o fargeinio â’r gofod – un economaidd ac un cymdeithasol. Mae unigolyddiaeth gyda rhesymoledd yn cael ei hymarfer wrth fargeinio’n economaidd i drafod cyfraddau llog ar gredyd a’r cyfraddau llwgrwobrwyo. Mae bargeinio cymdeithasol yn cael ei ymarfer drwy gyfunoliaeth i feithrin perthnasaoedd cymdeithasol ag asiantau fel cwsmeriaid, cyd-werthwyr stryd a benthycwyr arian. Darlith gan Siaradwr Gwadd Rhyngwladol: Mae Dr Debdulal Saha yn Athro Cynorthwyol yn Sefydliad Gwyddorau Cymdeithasol Tata, Campws Guwahati. Cyn ymuno â TISS, roedd e’n gymrawd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Kassel, yr Almaen. Fe yw awdur Informal Markets, Livelihood and Politics: Street Vendors in Urban India (Routledge, 2017), cyd-awdur Financial Inclusion of the Marginalised: Street Vendors in Urban Economy (Springer, 2013) a chyd-olygydd Employment and Labour Market in Northeast India (Routledge, 2018), Work, Institutions and Sustainable Livelihood (Palgrave Macmillan, 2017). Roedd e’n ymgymryd ag amrywiaeth o waith ymchwil i amryw sefydliadau, fel Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, y Ganolfan Ryngwladol dros Ddatblygu a Gwaith Urddasol, Oxfam yr Almaen, Corfforaeth Ddinesig Mwmbai Fwy.
Gweld Strategaethau gofod cyhoeddus, gwleidyddiaeth a goroesi: Gwerthwyr stryd yn India drefol ar Google Maps
0.81
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn