Ewch i’r prif gynnwys

Dr Damien Mooney, Prifysgol Bryste: ‘Yr adeiladwaith ideolegol o ddilysrwydd ar gyfer safonau aml-graidd: Ocsitaneg a Chatalaneg yn Ffrainc.

Dydd Iau, 13 Chwefror 2020
Calendar 17:10-18:10

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A picture of a town above a field of flowers

Yn ôl Bourdieu (1991), mae defnyddio ‘iaith ddilys’ yn cynnal strwythurau grym dominyddol, ac mae dilysrwydd yn cael ei benderfynu gan amrywiaeth o amodau economaidd a chymdeithasol sy’n rhan annatod o gymunedau llafar. Mae ieithoedd safonol yn gweithio fel ‘cynhyrchion wedi’u normaleiddio’ (Bourdieu 1991) ac fe’u hystyrir yn fwy dilys nag amrywiadau ansafonol oherwydd Ideoleg Iaith Safonol (SLI, Lippi-Green 2012). Mae hyn yn ein harwain at gwestiynu beth sy’n digwydd pan fydd iaith annominyddol yn ceisio ennill mwy o ddilysrwydd a bri. A allai safoni gynyddu dilysrwydd ar gyfer amrywiadau sydd wedi diooddef canrifoedd o israddoldeb gwleidyddol ac ideolegol? Beth sy’n digwydd wedyn i ieithoedd lleiafrifol os oes sefyllfa aml-graidd gydag amrywiadau gwahanol yn hytrach nag un safon glir? Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod tystiolaeth siaradwyr ynglŷn â safoni Ocsitaneg a Chatalaneg yn Ffrainc, gan ddangos fod yr adeiladwaith ddisgyrsiol ar gyfer amrywiadau safonol yn dibynnu ar greu gwahaniaeth ieithyddol mewn modd ideolegol. Mae’r data’n dangos bod defnyddio ‘Ideoleg Iaith Safonol’ (SLI) gydag amrywiadau ieithoedd annominyddol yn arwain at gynnal ail-drafodaeth gymhleth o werth yn y ‘farchnad ieithyddol’ Bourdieusian, sy’n sicr yn amlwg ar lefel unigol, ddisgyrsiol. Felly, mae angen ymdrechion i danseilio hegemoni presennol a herio trefn cymdeithas er mwyn mynd i’r afael ag ideolegau ynghylch ieithoedd safonol sydd gan siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.