Ewch i’r prif gynnwys

Ffermwyr newydd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy: cymhelliant a llwybrau dysgu gan Alice Taherzadeh

Dydd Gwener, 17 Ionawr 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae prosiect ‘Llwybrau Dysgu at Amaethyddiaeth Gynaliadwy’ yn ystyried straeon cudd pobl ifanc o gefndiroedd anamaethyddol sy’n troi at amaethu cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae mudiad bach ond cynyddol o ffermwyr newydd i’r diwydiant yn y DU, yn ogystal â llawer o wledydd eraill yn Hemisffer y Gogledd. Mae rhesymau gwleidyddol a phersonol yn eu hysgogi i droi at amaethyddiaeth gynaliadwy, ac mae mudiadau fel paramaethu, ffermio biodynamig ac agro-ecoleg yn eu hysbrydoli yn hyn o beth.

Yn aml, mae’r darpar ffermwyr ifanc hyn yn anweledig mewn ystadegau swyddogol oherwydd heriau o ran mynediad at dir a thueddiadau tuag at ddulliau mwy cydweithredol o gynnal busnesau a rheoli tir. Er bod eu heffaith ar ffermio’r DU yn gymharol fach o ran arwynebedd tir, mae eu cyfranogiad gwleidyddol drwy fudiadau lawr gwlad ac undebau ffermio eisoes wedi cael effaith nodedig ar bolisïau’r DU.

Fodd bynnag, gan nad oes llwybrau clir i mewn i ffermio cynaliadwy yn y DU ar hyn o bryd, rhaid i ddarpar ffermwyr ifanc ddefnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n tueddu i amrywio’n fawr o lwybrau traddodiadol. Mae’r ymchwil, sy’n seiliedig ar ugain o gyfweliadau a gynhaliwyd yn haf 2019, yn amlygu’r amryw ddulliau hyn ynghyd â chymhelliant y ffermwyr ifanc dros gefnu ar ffurfiau eraill o waith er mwyn dychwelyd i’r wlad.