Degawd Newydd o Uwchgyfrifiadura
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae effaith uwchgyfrifiaduron ar fywyd beunyddiol i’w theimlo bob man. O ymchwil academaidd i rôl sy’n fwyfwy pwysig i ddiwydiant, mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn dylanwadu ar bob agwedd ar ein bywydau.
A ninnau’n tynnu at ddegawd newydd, byddwn yn ystyried datblygiadau a chyflawniadau diweddar, gan gynnwys yr arbenigedd sydd wedi ei ddatblygu yng Nghymru trwy Uwchgyfrifiadura Cymru i ddefnyddio pŵer y cyfleusterau i alluogi ymchwil o'r radd flaenaf.
Byddwn hefyd yn edrych tuag at y dyfodol. Fydd uwchgyfrifiaduron yn parhau i chwarae rôl mor bwysig ym maes ymchwil, a sut bydd y maes yn datblygu? Pa effaith fydd arloesiadau ym maes Deallusrwydd Artiffisial a Chyfrifiadura Cwantwm yn ei chael ar ymchwil?
Ymunwch â ni wrth i ni ystyried rôl annatod uwchgyfrifiadura yn ein dyfodol.
Rhowch wybod i ni os oes gennych ofynion o ran hygyrchedd neu ddeiet drwy ebostio ymholiadau@uwchgyfrifiadura.cymru.
Caiff Uwchgyfrifiadura Cymru ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bute Pl
Cardiff Bay
CARDIFF
CF105AL