Ewch i’r prif gynnwys

Atlas Llenyddol: Lansio Arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig

Dydd Mercher, 15 Ionawr 2020
Calendar 18:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Hoffai Atlas Llenyddol eich gwahodd i fynd i lansiad yr Arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig yn y Senedd.

Yn y digwyddiad hwn, bydd yr Athro Jon Anderson (Prifysgol Caerdydd) yn cyflwyno Atlas Llenyddol, prosiect a greodd fapiau digidol arloesol o'r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymreig cyfrwng Saesneg a'u lleoliadau unigryw yng Nghymru (www.literaryatlas.wales). Comisiynwyd yr artistiaid yn yr arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig i ail-ddehongli 'daearyddiaeth lenyddol' cyfoethog deuddeg o'r llyfrau hyn. Y canlyniad oedd casgliad o weithiau celf newydd cyffrous ar amrywiaeth o ffurfiau, o gartograffeg gyfoes, i ffotograffiaeth, seinweddau a ffilm. Bydd yr arlunydd Seán Vicary yn cyflwyno ei ffilm ei hun, 'Sitelines', sy’n ymateb i ddaearyddiaeth lenyddol nofel Alan Garner The Owl Service (1966).

Bydd lluniaeth ar gael. E-bostiwch litatlaswales@gmail.com i gofestru llog.

Adeilad y Senedd
Pierhead Street
Cardiff
Cardiff
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn