Ewch i’r prif gynnwys

Yn y System: Perfformiad wedi’i seilio ar ymchwil

Dydd Mercher, 22 Ionawr 2020
Calendar 17:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Estynnwn wahoddiad i chi ddod i ddigwyddiad CPRN arbennig yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, i weld perfformiad theatrig a thrafodaeth yn seiliedig ar ddata ymchwil prosiect PhD a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yr ymchwil yn edrych ar brofiad defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru o gael diagnosis a chael mynediad at wasanaethau.  Cafodd data’r astudiaeth ei ddehongli gan y Reality Theatre i ysgrifennu’r sgript. Mae’r ddrama Yn y System, a berfformiwyd gan actorion proffesiynol yn trin a thrafod materion sy’n ymwneud â’r damcaniaethau ynghylch asesiad a diagnosis iechyd meddwl. Yn ôl yr ymchwil, roedd hwn yn faes oedd yn achosi pryder a gofid i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Fe’ch gwahoddwn i ymuno â ni ar gyfer y perfformiad ac ar gyfer y trafodaeth grŵp sy’n dilyn er mwyn trafod y materion a godwyd yn y ddrama. Gyda lwc, bydd y drafodaeth a ysgogir gan gelfyddyd yn ysbrydoli ffyrdd newydd o ddeall a mynd i’r afael â’r materion hyn. Os oes diddordeb gyda chi mewn iechyd meddwl, gwneud penderfyniadau am wasanaethau, gweithio yn y maes hwn neu defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl, rydym ni’n credu y bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i chi a byddem wrth ein bodd petaech yn gallu dod.

Main Hall - Pierhead Building
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF991NA

Rhannwch y digwyddiad hwn