Ewch i’r prif gynnwys

Delweddau Cyfnewidiol - Testun Cyfnewidiol: Symudedd Comics ar Draws Amser, Gofod a Chyfryngau Artistig

Calendar Dydd Iau 23 Ionawr 2020, 09:30-Dydd Gwener 24 Ionawr 2020, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Comic book pages

Bydd y gynhadledd ryngddisgyblaethol ddeuddydd hon yn archwilio symudedd comics a nofelau graffig ar hyd tair echel: amser, gofod a'r cyfryngau. Noddir y gynhadledd gan Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern, Cyngor Prifysgolion Ieithoedd Modern, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Caerdydd ac Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Deellir bod symudedd yn cynnwys yr holl brosesau trawsnewid sydd wedi effeithio ar gomics yn eu taith drwy hanes (amser), ffiniau diwylliannol ac ieithyddol (gofod), a gwahanol fathau o fynegiant artistig (cyfryngau).  Mae'r tair echel hyn o symudedd comics yn aml yn rhyng-gysylltiedig ond hyd yn hyn maent wedi cael eu hastudio ar wahân ac o safbwynt un ddisgyblaeth neu iaith.

Mae’r cyfleoedd a heriau sy’n gysylltiedig â chyfieithu comics i wahanol ieithoedd, a’u haddasu yn arbennig o / i ryddiaith naratif a ffilm, wedi cael sylw cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw taith comics trwy amser wedi cael ei astudio mor aml nac i’r fath ddyfnder dadansoddol. Yma, mae agweddau fel y gwahanol amgylcheddau testunol a chyd-destunol mewn detholiadau ac ail-argraffiadau, newidiadau i'r gwaith celf, ac arferion ail-arlunio yn haeddu rhagor o sylw.

Prif siaradwyr

Yr Athro Jan Baetens (KU Leuven)

Yr Athro Federico Zanettin (Università degli Studi di Perugia)

Rhaglen

Mae mwy o wybodaeth am y gynhadledd ar gael trwy'r rhaglen.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiynau holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 9 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Dydd Iau, 9 Ionawr yw’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.

*Sylwch y gall STAFF A MYFYRWYR PGR O MLANG & ENCAP fynychu yn rhad ac am ddim, ond byddem yn gofyn i'r unigolion hyn beidio â chymryd rhan yn y darpariaethau arlwyo, gan gynnwys y lluniaeth.

Os ydych chi'n aelod o staff MLANG neu ENCAP neu'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig ac yn bwriadu mynychu, naill ai trwy'r dydd neu ar gyfer rhai o'r sesiynau, nid oes angen i chi gofrestru trwy'r dudalen gofrestru swyddogol, fodd bynnag, cysylltwch â mlang-events@cardiff.ac.uk fel y gellir monitro cynhwysedd yr ystafell.

Gweld Delweddau Cyfnewidiol - Testun Cyfnewidiol: Symudedd Comics ar Draws Amser, Gofod a Chyfryngau Artistig ar Google Maps
Ystafell 2.18, Ysgol Ieithoedd Modern
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn