Ewch i’r prif gynnwys

Ymagweddau newydd at leihau gwastraff mewn cadwyni cyflenwi bwyd gan Hilary Rogers

Dydd Gwener, 22 Tachwedd 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae ffrwythau a llysiau ffres yn rhan hanfodol o'r diet dynol, ond mae colli a difetha ar ôl y cynhaeaf yn cyfrif am golledion hyd at 40% o gynnyrch ffres. Byddai llai o golled ar ôl y cynhaeaf yn cyfrannu'n helaeth at wella diogelwch bwyd. Mae cadwyni cyflenwi yn amrywio mewn gwahanol rannau o'r byd ond mae deall y ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd a diogelwch cynnyrch ffres yn elfen allweddol.

Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar saladau wedi'u torri'n ffres sydd ag oes silff fer ac sy'n agored i gael eu halogi â phathogenau dynol. Rydym wedi bod yn datblygu marcwyr ansawdd a diogelwch yn seiliedig ar newidiadau mewn arogl. Gall y dull hwn gynnig adnodd cyflym a sensitif trwy'r gadwyn gyflenwi, gan helpu i leihau gwastraff a chynyddu gwerth maethol cynnyrch ffres i'w fwyta.