Ewch i’r prif gynnwys

Yng Nghysgod y Cwmwl Madarch: 75 mlynedd ers y Bomiau Atomig ar Hiroshima a Nagasaki

Dydd Iau, 6 Chwefror 2020
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Hiroshima

Mae Sgwrs y Byd yn gyfres o ddarlithoedd am bynciau cyfoes diddorol mewn amryw wledydd ledled y byd gan Arbenigwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at fyfyrwyr UG a Safon Uwch yn bennaf, er mwyn ennyn eu diddordeb a chynnig dealltwriaeth well o ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd. Bydd y darlithoedd yn para tua 45 munud, ac yna sesiwn holi ac ateb am 30 munud.

Yn y ddarlith hon, bydd Dr Christopher Hood yn ystyried y prif agweddau ar beth ddigwyddodd ym 1945 a sut mae’r bomiau’n parhau i effeithio ar Japan a sut dylent ddylanwadu ar wleidyddiaeth y byd sydd ohoni.

Crynodeb

Ar 6 Awst 1945, fe ollyngwyd bom atomig ar ddinas Hiroshima. Gollyngwyd ail fom ar Nagasaki dri diwrnod wedyn. Helpodd y ddau fom hyn i ddod â’r Ail Ryfel Byd i ben, ond roeddent hefyd yn rhan o ddechrau’r hyn ddaeth i gael ei galw y Rhyfel Oer. 75 mlynedd ers y bomio, mae’r Rhyfel Oer bellach ar ben,

ac efallai fod gan y cyhoedd ac, yn bosibl, arweinwyr gwleidyddol, lai o ymwybyddiaeth o effeithiau arfau niwclear ac mae bygythion o’u defnydd ar eu huchaf ers deng mlynedd ar hugain. Fodd bynnag, mae’r bomio wedi parhau i effeithio ar Japan yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol ers hynny. Bydd y ddarlith hon yn cwmpasu’r prif agweddau ar yr hyn ddigwyddodd ym 1945 ac yn ystyried y ffordd y mae’r bomiau’n parhau i ddylanwadu ar Japan a sut dylent ddylanwadu ar wleidyddiaeth y byd sydd ohoni.

Bywgraffiad

Mae Christopher Hood yn Ddarllenydd Astudiaethau Japaneeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw awdur Japan:The Basics (2014), Dealing with Disaster in Japan:Responses to the Flight JL123 Crash (2011), a Shinkansen:From Bullet Train to Symbol of Modern Japan (2006). Ef yw Llywydd Cymdeithas Prydain er Astudiaethau Japaneeg.  Twitter: @HoodCP

Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Iau 23 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Yng Nghysgod y Cwmwl Madarch: 75 mlynedd ers y Bomiau Atomig ar Hiroshima a Nagasaki ar Google Maps
Room 2.18, School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

World Talk Lecture Series