Ewch i’r prif gynnwys

Darlith SYNIAD - James Poulter

Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

SYNIAD 2019

Rydym yn falch iawn o groesawu James Poulter ar gyfer ein darlith a'n Q&A cyntaf o SYNIAD.

Mae James Poulter yn gyn bennaeth tîm llwyfan ac Arweinydd Grŵp LEGO Group ar ddyfodol gwaith, technoleg llais, deallusrwydd artiffisial sgyrsiol, a chyfryngau cymdeithasol.

James yw sylfaenydd Voice2, prif lais y DU ar gyfer y gymuned a sgwrs AI, ac ym mis Rhagfyr 2018 lansiodd Vixen Labs – sef cwmni sy'n arbenigo mewn profiad llais defnyddwyr (VUX) sy'n cynnwys dylunio a strategaeth – gan helpu cwmnïau i ymgorffori eu brand ac yn rhoi mwy o brofiadau i'w cwsmeriaid.

Mae James yn farchnadwr profiadol ac yn weithiwr cyfathrebu proffesiynol gyda dros 10 mlynedd o brofiad. Cyn hynny, ef oedd pennaeth cyfryngau cymdeithasol LEGO's Social Network for Kids, LEGO Life-a lansiwyd yn fyd-eang yn 2017 ac ers hynny mae wedi tyfu i dros 2m o ddefnyddwyr gweithredol yn postio eu cynnwys yn rheolaidd i rwydwaith cymdeithasol byd-eang a diogel cyntaf y byd i blant.

Agenda

-Arddangos arloesedd gyda derbyniad diodydd

-Prif siarad a Q&A

Mae'r digwyddiad hwn am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (mae angen dangons ID).

Ynglŷn â SYNIAD 2019

Ym 2019 lansiodd Prifysgol Caerdydd SYNIAD.

Nod SYNIAD yw grymuso cenhedlaeth o arloeswyr drwy ysbrydoli ein myfyrwyr i dyfu eu syniadau, eu sgiliau a'u hyder.

Datblygwyd SYNIAD mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Syniadau Mawr Cymru

Cysylltwch â entreprise@cardiff.ac.uk os oes gennych ragor o gwestiynau.

Gweld Darlith SYNIAD - James Poulter ar Google Maps
VJ Gallery and Large Chemistry Lecture Theatre
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn