Ewch i’r prif gynnwys

WEDI'I AILDREFNU: Hospes a Hostis: Ailfeddwl Cyfieithu a Lletygarwch

Dydd Mercher, 19 Chwefror 2020
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Sylwch fod y digwyddiad hwn wedi'i aildrefnu i ddyddiad cynharach.

Darlith gyhoeddus gyda'r Athro Loredana Polezzi (Prifysgol Caerdydd), fel rhan o themâu ymchwil Dinasyddion a Chyfieithu, Addasu a Pherfformiad yn yr Ysgol. Wedi'i ddilyn gan dderbyniad gwin yng nghyntedd yr Ysgol rhwng 17:00 - 18:00.

CrynodebFel 'cyfieithu', mae 'lletygarwch' ('hospitality') a 'gwrthdaro' ('conflict') yn eiriau amlgyfeiriol. Mae'r gair Lladin 'hospes' yn golygu gwesteiwr a gwestai, rhywun lleol a dieithryn. Mae gan y ddau ystyr, fel yr ysgrifennodd Derrida, gysylltiad â'r gair 'gwystl' ('hostage'). Fel y nodwyd gan Benveniste, mae gan y gair 'hospes' gysylltiad agos â 'hostis' sydd, yn ei dro, yn golygu dieithryn a gelyn. Mae cyfieithu, hefyd, yn weithred, wedi'i hadeiladu ar y tensiynau rhwng tebygrwydd a gwahaniaeth, rhwng 'yr estron' a'r hyn sy'n 'neilltuol i ni'. Mae ffurfiannau dwyrannol traddodiadol o gyfieithu, sy'n mynnu cywerthedd ac amnewid, yn gyson ailbwysleisio'r gwrthwynebiad rhwng yr estron a'r un peth, ac yn mynnu dileu'r naill er mwyn cynhyrchu'r llall. Beth petawn ni'n newid y model hwnnw? Beth os yw'r cyfieithydd a'r hyn a gyfieithir yr un fath? Beth, hefyd, os ydyn nhw eisoes yno, nawr, yn hytrach nag yn 'estron' a 'rhywle arall'? Byddaf yn trafod y cwestiynau hyn gan ddefnyddio enghreifftiau o ysgrifennu ymfudol a chelfyddydau gweledol, gan ddadlau y gall cysyniad gwahanol o gyfieithu ddod i'r amlwg mewn byd symudol ac amlieithog.

BywgraffiadMae Loredana Polezzi yn Athro Astudiaethau Cyfieithu yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd, ac yn Llywydd y Gymdeithas Ryngwladol er Astudiaethau Cyfieithu a Rhyngddiwylliannol (IATIS) Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw astudiaethau cyfieithu, llenyddiaeth gymharol a hanes teithio a mudo. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y modd y mae symudedd daearyddol a chymdeithasol yn gysylltiedig â theorïau ac ymarfer cyfieithu, hunangyfieithu ac amlieithrwydd. Ar y cyd â Rita Wilson, mae hi'n olygydd ar y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw, The Translator. Roedd hi'n gyd–ymchwilydd yn y prosiectau ymchwil ‘Transnationalizing Modern Languages’ a ‘Transnationalizing Modern Languages: Global Challenges’, o dan nawdd cynlluniau Translating Cultures a GCRF yr AHRC, yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr y rhwydwaith Cultural Literacy in Europe.

Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Iau 20 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld WEDI'I AILDREFNU: Hospes a Hostis: Ailfeddwl Cyfieithu a Lletygarwch ar Google Maps
Room 2.18, School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Citizens – School of Modern Languages’ Research Seminar Series