Ewch i’r prif gynnwys

Priddoedd glas a’u llwyth deimyntog gwerthfawr

Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2020
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Picture of a diamond

Yn y ddarlith hon, bydd Maier yn mynd â’r gynulleidfa ar daith sy’n trin a thrafod darganfyddiad priddoedd glas a’u dyddodion o ddiemyntau. Canolbwyntir ar y degawdau cythryblus o 1864 ymlaen pan ddarganfuwyd diemyntau ar hyd Afon Oren yn Ne Affrica, a sbardunodd ruthr mwyaf y byd am ddiemyntau. Daeth hyn â Gweriniaethau’r Gricwas a’r Boeriaid i ben, gan gael eu disodli gan Ymerodraeth deheubarth Affrica Prydain.

Bydd portreadau o Cecil Rhodes a Barney Barnato’n ymddangos gyda llawer o luniau o ddiemyntau enwog (a rhai ohonynt ar bobl frenhinol). Ar ben hynny, rhoddir trosolwg o ffurfiant y diemyntau ac ystyrir technegau ar gyfer eu darganfod hefyd.

Cyfres Llosgfynyddoedd - popeth mae angen i chi ei wybod

Bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn cwmpasu amrywiaeth llosgfynyddoedd, eu gweithrediad a'u cynhyrchion, ynghyd â natur ffrwydradau a'r problemau o ran eu rhagweld, ynghyd â'u heffeithiau amgylcheddol a biolegol yn y gorffennol a'r presennol.

Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o echdoriadau folcanig - efallai hyd at 90% - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth? Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd, ond mae llawer o wybodaeth newydd gyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus.

Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.

Gweld Priddoedd glas a’u llwyth deimyntog gwerthfawr ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre (0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Volcanoes - all you need to know