Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa a Sgwrs ANCHOR PEOPLES

Calendar Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2019, 10:00-Dydd Llun 4 Tachwedd 2019, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Anchor

Mae Anchor Peoples yn deillio o brosiect oedd yn rhan o raglen a ariannwyd gan ESRC o’r enw Ymylon Cynhyrchiol: Rheoleiddio ar gyfer Ymgysylltu. Mae’r term ymylon cynhyrchiol yn ymgorffori dealltwriaeth bod gan y bobl a’r cymunedau sy’n cael eu heithrio rhag cymryd rhan yn y cyfundrefnau rheoleiddio sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd yn meddu ar arbenigedd, profiad a chreadigrwydd a allai fod yn wleidyddol gynhyrchiol. Roedd yn rhaglen a oedd yn ceisio cyd-gynhyrchu prosiectau ymchwil a oedd yn bwysig i’r partneriaid cymunedol a gymerodd ran. Cafodd y ddau sefydliad cymunedol a gymerodd ran yn Ne Cymru eu creu gan bobl leol er budd eu cymunedau lleol 20 a 40 o flynyddoedd yn ôl. Datblygodd y sefydliadau ffyrdd o weithio sy'n ennill ymddiriedaeth y bobl leol maen nhw’n eu gwasanaethu. Wrth i sefydliadau cymunedol angori ym mywydau bob dydd y bobl o’u hamgylch, daethant yn gyfrwng ar gyfer rhaglen adfywio blaenllaw Cymru (ac yn fwy diweddar) y rhaglen gwrthdlodi, Cymunedau’n Gyntaf.Daeth y prosiect yn dyst i’r aflonyddwch a deimlwyd yn y cymunedau hyn pan ddaeth Cymunedau’n Gyntaf - a’r arian gan y wladwriaeth oedd yn cyd-fynd ag ef - i ben. Mewn ymateb i hyn, mae Artstation wedi datblygu gwaith celf ategol a phryfoclyd. Mae'r portreadau mawr hyn yn syllu, maen nhw’n chwerthin, maen nhw’n pryfocio ac maen nhw’n siarad. Maen nhw’n gynrychioliadau o bobl unigol, go iawn, ond ar y cyd maen nhw hefyd yn cynrychioli grym bywyd y ‘gymuned’. Mae pob portread god QR ar ei gefn sy'n eich galluogi i gael gafael ar recordiadau o leisiau aelodau unigol ar eich ffôn clyfar. Mae clustffonau’n darparu trac sain cerdded diddorol, ac mae’r cyfansoddiad yn deillio yn uniongyrchol o'r data a gasglwyd yn yr ymchwil hwn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i ymateb i'r materion penodol mae’r arddangosfa yn eu codi, tra bydd 'sgwrs' mwy ffurfiol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth cyfranogiad, rheoleiddio ac ymyleiddio.

Dydd Sul 2 Tachwedd Byddwn angen i bobl gofrestru ar gyfer y sgwrs fodd bynnag nid ydym wedi gwneud tudalen Eventbrite eto.

St Fagans National Museum of History
St Fagans
Cardiff
Cardiff
CF5 6XB

Rhannwch y digwyddiad hwn